Angladd dyn fu farw wedi ymosodiad

Mae angladd dyn 18 oed fu farw wedi ymosodiad mewn parc carafannau wedi cael ei gynnal ddydd Sadwrn.

Cafodd Conner Marshall o'r Bari ei ddarganfod ym mharc carafannau Trecco Bay fis diwethaf, ond bu farw yn yr ysbyty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Sant Pedr yn Ninas Powys ac roedd y teulu wedi gofyn i bobl oedd yn mynychu'r angladd i wisgo dillad lliwgar.

Disgrifiad o'r llun, Conner Marshall