Â鶹ԼÅÄ

Ymosodiad Porthcawl: Cyhuddo dyn

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall, 18 oed o'r Barri, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 26 oed o lofruddiaeth wedi i ddyn ifanc farw yn dilyn ymosodiad mewn parc carafanau yn ne Cymru.

Bu farw Conner Marshall, 18 oed o'r Barri, yn yr ysbyty ddydd Iau ar ôl cael ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol ym Mharc Carafanau Bae Trecco ar 8 Mawrth.

Bydd y dyn o Gaerffili yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun.

Mae'r heddlu yn dweud eu bod am siarad gydag unrhyw un ym Mae Trecco rhwng hanner nos a 07:00 ddydd Sul, 8 Mawrth.

Ychwanegodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: "Hoffwn dawelu meddyliau trigolion ac ymwelwyr i Borthcawl a pharc carafanau Bae Trecco drwy ddweud bod hwn yn ymddangos fel petai'n ddigwyddiad unigol ar safle sydd wedi'i reoli'n dda.

"Mae cwmni Rheoli Parkdean Cae Trecco yn parhau i gydweithio gyda Heddlu De Cymru a hoffwn ddiolch i Parkdean a'r gymuned leol am eu cymorth a'u cefnogaeth.

"Rydym yn parhau i gynnig cefnogaeth i deulu Conner".

Mewn teyrnged iddo, roedd teulu Conner wedi dweud eu bod yn ymfalchïo yn y ffaith bod Conner yn "unigryw ac yn ofalgar".