Hanes yn cofio merched Cymru?

Ffynhonnell y llun, Sara Huws

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn gyfle i ddathlu cyfraniad merched ledled y byd. Cafodd Cymru Fyw farn Sara Huws am y ffordd rydyn ni yng Nghymru yn cydnabod cyfraniad merched.

Ymysg holl ddelwau eiconig Caerdydd, wnewch chi ddim ffindio'r un ddynes go iawn.

Rhwng y môr forynion, duwiesau a'r cymeriadau mytholegol; does dim un cerflun coffa o fenyw sy' di cyfrannu at fywyd yng Nghymru.

I bobl a hoffai weld hyn yn newid rhyw ddydd, mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn achlysur i'w fwynhau. I eraill, sy'n gweld dim o'i le ar y status quo, mae'r ymgyrch yn cynrychioli'r math o gywirdeb gwleidyddol sy'n codi gwrychyn.

Beth yw pwrpas Diwrnod Rhyngwladol y Merched?

Mewn gwirionedd, bwriad y fenter yw i ni ddathlu cyfraniad merched at hanes a llwyddiant byd-eang Cymru, ac at gyfoeth ein diwylliant.

Yn hytrach na gwaethygu'r arwahanrwydd rhwng dynion a merched, mae'n amlygu'r gagendor sy'n bodoli'n barod rhyngom - ac yn gofyn i bob un ohonom wneud rhywbeth i gau'r bwlch.

Yn ein prifddinas, felly, welwn ni ddim un darn o dir neu blac bach taclus wedi'i neilltuo ar gyfer dathlu menywod Cymru. Ond heb fynd i eithafion codi delw, beth allwn ni ei wneud?

Disgrifiad o'r llun, Cerflun o'r Frenhines Victoria yn Birmingham. Lle mae'r cerfluniau i ferched Cymru?

Hanes eich mamau

Gallwn wrando ar straeon menywod, fel y rhain o , neu ofyn i'r menywod yn ein teuluoedd am hanes eu mamau, eu chwiorydd neu'u modrybedd. Gallwn ymroi i ddarllen mwy o lyfrau wedi'u 'sgrifennu gan fenywod, neu chwilio am weithiau celf gan artistiaid benywaidd - does dim prinder ohonynt:

Beth am Louie Myfanwy Thomas - awdures feiddgar a dychanol, a ail-ysgrifennodd ei nofel ar ôl i'w chariad daflu'r llawysgrif ar y tân, neu Margaret Lindsay Williams - portreadwraig enwogion oes Fictoria?

Yr elfen 'anghyffredin'

Cofiwn am fenywod 'anghyffredin' fel Elizabeth Baker - 'prospector' a boneddiges a gladdwyd mewn bedd tlotyn, a Dorothy Edwards - arloeswraig lenyddol a neidiodd o flaen y trên i Gaerffili yn 23 oed.

Dathlwn anturiaeth a dygnwch Eluned Morgan - 'Printar' y Wladfa, a aned mewn storm ar long ym Mae Biscay, a Minwel Tibbott - anthropolegydd a oedd yn gweld gwerth mewn 'gwaith merched' ac yn ei gofnodi.

Wrth gwrs, efallai y bydd llawer ohonom yn teimlo'n gydradd a chyfforddus iawn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod eleni.

Disgrifiad o'r llun, Baneri bychain Craftivists Caerdydd, wedi'u hysbrydoli gan waith llaw y Syffrajets

Diwrnod i pob merch

Nid ni'r breintiedig yn unig sy'n berchen ar y diwrnod hwn, ond pob math o fenywod ar draws y byd - rhai ohonynt sy'n gorfod ymgyrchu am hawliau sylfaenol, fel mynediad at feddygyniaethau ac addysg. Mae heddiw yn gyfle i gydnabod y gwaith hwn, i gael seibiant i edrych yn ôl ar flwyddyn o ymgyrchu.

I ni sy'n rhan o'r gymuned LBT, mae'n amser i alaru, gan gofio'r holl fenywod trans a lofruddwyd yn2014, am feiddio â bodoli mewn byd ble mae eu benyweidd-dra yn ddatganiad dewr; neu'n chwiorydd kuchu yn Uganda, sy'n cael eu dwyn gerbron y llysoedd a'u carcharu oherwydd eu rhywioldeb.

Yng Nghymru a thu hwnt, mae cymaint o hanesion i'w nodi neu'u dathlu. Beth am ddarganfod stori menyw i'w roi ar gof a chadw, ar flaen y papur newydd, neu - well fyth - ar bedastal yma yn y brifddinas.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 8 Mawrth 2015.