Â鶹ԼÅÄ

'Mwy o fenywod mewn bywyd cyhoeddus'

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt

Mae Jane Hutt yn dweud y gellid defnyddio pwerau newydd llywodraeth Cymru i ddenu rhagor o fenywod i swyddi cyhoeddus.

Wrth i Gymru nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, fe ddywedodd Jane Hutt - sydd wedi bod yn weinidog cabinet ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999: "Petaen ni'n gallu defnyddio'r gyfraith, yna fe fydden ni'n gwneud hynny.

"Dw i'n credu fod y pwerau newydd sydd ar droed yn rhoi'r cynulliad mewn lle da iawn."

Mewn sgwrs â rhalgen Sunday Politics Wales, fe ddywedodd bod "camau breision" wedi bod wrth geisio cael rhagor o fenywod ar fyrddau cyhoeddus, drwy "weithredu'n bositif a chadarnhaol" er mwyn codi ymwybyddiaeth a thargedu merched.

Fodd bynnag, ychwanegodd, mae mwy o waith i'w wneud.

Fe ddywedodd Ms Hutt ei bod hi'n falch o'i rôl yn y byd gwleidyddol yng Nghymru: "Fe wnes i helpu i ddechrau'r lloches Cymorth i Ferched cyntaf, ro'n i'n rhan o'r gweithdy hyfforddi merched cyntaf, a fi oedd cyfarwyddwr Chwarae Teg - cyn i mi gael fy ethol yn AC. Dyna 'ngwleidyddiaeth i."

Yn rhan o'r Cytundeb Gŵ yl Ddewi, bydd y cynulliad cenedlaethol yn cael pwerau newydd dros etholiadau'r cynulliad a chynghorau.

Ar hyn o bryd, mae 40% o ACau yn fenywod - 50% oedd y ffigwr yn 2003. 27% o gynhorwyr sy'n fenywod yng Nghymru.

Sunday Politics Wales, Â鶹ԼÅÄ1 Wales, 1100 ddydd Sul.