Â鶹ԼÅÄ

Lansio ymgyrch i hyrwyddo TGAU newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth

Mae cynllun i gyflwyno arholiadau TGAU newydd i Gymru wedi ei gefnogi gan academyddion ac arweinwyr busnes.

Bydd y newidiadau, sydd i fod i ddod i rym o fis Medi nesaf, yn cynnig cymwysterau newydd mewn mathemateg, Cymraeg a Saesneg.

Mae'r arholiadau Llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg hefyd wedi eu newid, yn ogystal â chais i wella'r Fagloriaeth Gymreig.

Mae'r ymgyrch hyrwyddo yn cael ei lansio ddydd Llun.

Datblygu sgiliau

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cymwysterau newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau, yn enwedig llythrennedd a rhifedd, a'r bwriad yw paratoi pobl ifanc yn well ar gyfer byd gwaith neu astudio pellach.

Cafodd y , yn dilyn pryder am ddirywiad mewn safonau addysg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi gweithio gyda'r byd addysg wrth lunio'r cymwysterau newydd.

Fel rhan o'r diwygio, mae , sy'n cynnwys cefnogaeth gan swyddog o Brifysgol Rhydychen, ac is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt.

Ar y wefan, mae Ceri Assiratti o Grwp Admiral yn croesawu'r ffaith bod y llywodraeth wedi "ystyried anghenion busnesau" wrth lunio'r arholiadau, tra bod Janet Jones o Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud ei bod yn falch bod ffocws ar lythrennedd a rhifedd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: "Bydd y cymwysterau gwell yma yn cyrraedd anghenion pobl ifanc ac yn helpu i gefnogi economi Cymru.

"Byddan nhw yn cael eu hadnabod fel safon rhagoriaeth; y bydd cyflogwyr a phrifysgolion yn ymddiried ynddynt, yn gwerthfawrogi ac yn eu parchu, nid yn unig yng Nghymru ond y DU ac yn rhyngwladol."