Cysylltiad rhwng pigiad a bwydo o'r fron

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Roedd 288 o famau gyda babanod hyd at 6 mis wedi cofnodi'u profiadau.

Mae merched sy'n cael pigiad i helpu geni'r brych wedi rhoi genedigaeth yn fwy tebygol o gael problemau gyda bwydo o'r fron, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Prifysgol Abertawe wedi darganfod bod merched yn dueddol o gael poen wrth fwydo o'r fron neu'n sylweddoli bod y babi yn cael trafferthion gyda hynny os oedden nhw wedi derbyn y chwistrelliad

Roedden nhw hefyd yn anhebygol o barhau i fwydo'u babi o'r fron wedi pythefnos.

Mae'r adroddiad yn casglu y gallai'r pigiad ymyrryd â'r hormonau naturiol yn y corff sy'n helpu'r broses o fwydo o'r fron.

Mae menywod ym Mhrydain yn aml yn cael cynnig chwistrelliad o ergometrine neu syntometrine er mwyn cyflymu'r broses o eni'r brych, sy'n gallu helpu lleihau faint o waed sy'n cael ei golli.

Roedd yr adroddiad gan y Brifysgol wedi cofnodi profiadau 288 o famau gyda babi 0-6 mis.

Er nad oedd yn dangos bod gwahaniaeth yn y rhifau a ddechreuodd fwydo o'r fron, roedd y rheiny oedd wedi derbyn chwistrelliad yn llai tebygol o fod yn parhau i fwydo o'r fron bythefnos yn ddiweddarach.

Pigiad yn ymyrryd ag ymateb naturiol y corff

Yn ôl yn un o awduron yr adroddiad, Dr Amy Brown: "Mae'r darganfyddiadau yn ddiddorol iawn gan eu bod yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol y gallai meddyginiaethau mae mamau yn ei dderbyn yn ystod rhoi genedigaeth wneud bwydo o'r fron yn anoddach, ac esbonio pam, wrth i'r nifer o enedigaethau cymhleth godi ym Mhrydain, mae cyfradd y mamau sy'n bwydo o'r fron wedi disgyn."

"Roeddem yn gwybod eisoes bod merched sy'n derbyn y pigiad yn llai tebygol o fwydo o'r fron ond yn ansicr ynglyn â pham roedd hyn yn digwydd.

"Mae'r data yma yn dweud wrthom pam: mae merched yn fwy tebygol o ddioddef poen a thrafferthion wrth fwydo'u babi o'r fron sy'n arwain at eu symud at laeth fformiwla."

Mae'r gyd-awdures, Dr Sue Jordan, yn esbonio y gallai'r chwistrelliad ymyrryd gydag ymateb naturiol y corff i hormonau megis oxytocin a prolactin, sy'n rheoli'r cynhyrchu llaeth.

Mae'n galw am ymchwil pellach i edrych ar yr opsiynnau i famau newydd i "ddeall y cydbwysedd rhwng amddiffyn merched rhag colli gormodedd o waed a rhoi'r siawns cryfaf iddyn nhw fedru bwydo'u baban ar y fron."