Â鶹ԼÅÄ

Protest o blaid bwydo ar y fron yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
The picture showing Emily breastfeedingFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r llun gafodd ei rhoi ar Facebook o Ms Slough yn bwydo ei merch ar ôl bod yn siopa

Mae disgwyl mwy na 100 o fenywod i ymgynull mewn protest i gefnogi bwydo o'r fron yn Abertawe ar ol i fam o Swydd Stafford gael ei galw yn 'tramp' am fwydo ei babi yn gyhoeddus.

Dechreuodd Emily Slough ei hymgyrch ar ol darganfod llun ohoni hi ei hun yn bwydo ei merch ar Facebook.

Roedd y person oedd wedi rhoi'r llun ar y wefan wedi ysgrifennu o dan y llun ei bod hi'n 'tramp'.

Yn ol Ms Slough roedd hi wedi stopio i fwydo ei merch wyth mis oed Matilda ar ol bod yn siopa ar y 7fed o Fawrth.

Ers cychwyn ei hymgyrch mae'r fam 27 oed wedi derbyn cefnogaeth ar Facebook. Mi fydd hi yn cynnal protest ei hun yn Rugeley ddydd Sadwrn ac mae disgwyl mwy na 1,000 o bobl yno.

Mae Jade Richards, sydd hefyd yn fam ac yn dod yn wreiddiol o Swydd Stafford wedi penderfynu cynnal protest ei hun yn Sgwâr y Castell, Abertawe am hanner dydd.

"Ar hyn o bryd mae gyda ni 102 o famau sydd wedi dweud eu bod nhw'n dod a 50 efallai bydd yn dod," meddai Ms Richards.

"Ddim wedi arfer"

"Rydyn ni yn disgwyl mamau sydd yn bwydo ar y fron a mamau sydd yn defnyddio'r botel a thadau ac aelodau eraill o'r cyhoedd."

Mae'n dweud bod hi'n anodd esbonio pam bod rhywun wedi beirniadu Ms Slough am fwydo ar y fron yn gyhoeddus.

"Dyw pobl ddim wedi arfer gweld mamau yn bwydo ar y fron yn gyhoeddus. Mae mamau fel arfer yn gwneud hyn mewn ffordd lle nad oes na neb yn sylwi.

"Dw i ddim yn dweud y dylen nhw fod fel hyn, ond pan mae pobl yn gweld mamau yn bwydo weithiau mae'r mamau yn derbyn ymateb rhyfedd."

Mae'n awgrymu y dylai'r brotest fod yn ddigwyddiad blynyddol gan y byddai hyn efallai yn helpu i 'normaleiddio' bwydo ar y fron mewn lle cyhoeddus.

Yn Rugeley mae busnesau lleol wedi cefnogi ymgyrch Emily Slough ac mae disgwyl i ddigwyddiad tebyg gael ei gynnal yn Efrog.