Â鶹ԼÅÄ

Bagloriaeth Cymru am fod yn 'llymach'

  • Cyhoeddwyd
Papur arholiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Fagloriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2002 gyda'r bwriad o roi profiad addysgol mwy cyflawn i fyfyrwyr

Mi fydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei wneud yn "llymach" er mwyn creu cymhwyster sy'n cael ei barchu ar lwyfan y byd, yn ôl y Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Dywedodd y bydd y cymhwyster "ar ei newydd wedd" yn ganolog i system gymwysterau genedlaethol newydd i Gymru o 2015

O hynny ymlaen bydd yn ofynnol i bawn sy'n gwneud y Bac wneud y TGAU newydd mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg.

M fydd ffocws ar lythrennedd a rhifedd gweithredol, yn ôl Mr Lewis.

At hynny, meddai, mae "newidiadau sylweddol wedi cael eu gwneud, ac yn dal i gael eu gwneud, i elfennau eraill o'r system gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol a Safon Uwch".

Cymhwyster 12 oed

Cafodd y cymhwyster ei lansio yn 2002, gyda'r nod o gynnig profiad addysgol mwy cyflawn i ddisgyblion 14-19 oed trwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau fyddai sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr yn dymuno iddynt gael wedi gadael yr ysgol.

Mae'r pwyslais ar ddysgu trwy wneud, gyda'r un gwerth yn cael ei roi i gymwysterau galwedigaethol yn ogystal ag academaidd.

Ond roedd nifer o undebau athrawon wedi codi pryderon am werth y cymhwyster, a llynedd fe ddywedodd adroddiad gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (Wiserd) fod nifer o ddisgyblion sy'n astudio'r Fagloriaeth Gymreig yn ei chael hi'n haws cael lle mewn prifysgol, ond ddim yn cael canlyniadau cystal yn eu gradd.

Ddydd Gwener, dywedodd Mr Lewis y bydd "model newydd ar gyfer Bagloriaeth Cymru gyda ffocws newydd ar sgiliau hanfodol". Y sgiliau hynny yw:

• Llythrennedd

• Rhifedd

• Llythrennedd Digidol

• Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

• Cynllunio a Threfnu

• Creadigrwydd ac Arloesi

• Effeithiolrwydd Personol.

Ychwanegodd y gweinidog y bydd yn "annog pawb i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd, yng Nghyfnod Allweddol 4 ac wrth ddarparu addysg ôl-16".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol