Meddygfeydd Pen LlÅ·n dan fygythiad

Disgrifiad o'r llun, Dim ond dwy feddygfa sy'n gwasanaethu 7,000 o drigolion Pen LlÅ·n ar hyn o bryd

Mae prinder meddygon teulu ym Mhen LlÅ·n wedi cyrraedd sefyllfa lle nad oes modd llenwi swyddi gwag, ac mae meddygon wedi gwneud cais i gau un o'r ddwy feddygfa sy'n gwasanaethu'r ardal.

Dwy feddygfa, un ym Motwnnog ac un yn Abersoch, sy'n gwasanaethu tua 7,000 o bobl yr ardal.

Ym mis Medi fe wnaeth dau o'r pum meddyg teulu oedd yn gweithio rhwng y ddau safle ymddeol, ac mae ymdrechion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i lenwi'r swyddi wedi bod yn ofer.

Mae'r tri meddyg sydd ar ôl nawr wedi gwneud cais i gau meddygfa Abersoch er mwyn ysgafnhau'r baich, ac mae Cynghorau Cymuned Aberdaron a Botwnnog wedi cefnogi eu cais.

Ond clywodd y ddau gyngor mewn cyfarfod nos Lun bod dyfodol y ddwy feddygfa yn y fantol os fydd y cais yn cael ei wrthod.

Bygythiad

Dywedodd un o'r meddygon, Dr Gwyn Morris,wrth y cyfarfod bod un o'r tri meddyg sydd yn weddill yn ystyried ei ddyfodol os fydd y cais yn cael ei wrthod gan y bwrdd iechyd.

Dywedodd Gwenda Williams, cadeirydd cyngor cymuned Aberdaron, wrth raglen y Post Cynta, Â鶹ԼÅÄ Cymru, fod y sefyllfa yn un anodd.

"Dim bod fi eisiau i Abersoch gau o gwbl, byddwn yn hoffi gweld y ddwy feddygfa yn parhau.

"Ond yn ôl y wybodaeth 'da ni wedi ei gael dydy hynny ddim yn bosib."

Dywedodd ei bod wedi cael gwybod pe na bai Abersoch yn cau, yna roedd yna fygythiad hefyd i feddygfa Botwnnog.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo felly bod "dyletswydd cefnogi rhywle sy'n ganolog i ben LlÅ·n."

Hyfforddi

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymwybodol fod rhai meddygfeydd yn cael trafferth penodi, a bod y bwrdd wedi lleisio pryder wrth Lywodraeth Cymru.

Mae'r Bwrdd wedi dechrau ymgyrch recriwtio gyffredinol ac wedi sefydlu gwefan i hyrwyddo'r ardal, ond yn ogystal â hynny meddai, mae rhaid newid y modd mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu er enghraifft drwy hyfforddi uwch ymarferwyr nyrsio a defnyddio fferyllwyr.

Mae'n rhaid i'r Bwrdd, meddai, sicrhau fod bob practis wedi edrych ar ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaeth cyn caniatáu iddyn nhw gau unrhyw feddygfa.

Mi fydd y bwrdd yn penderfynu ar gais meddygon Botwnnog ddydd Gwener, 24 Hydref.