Â鶹ԼÅÄ

Prinder meddygon teulu yn broblem yn LlÅ·n ac Eifionydd

  • Cyhoeddwyd
Ystafell meddyg teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na brinder meddyg teulu mewn mwy nag un meddygfa yn yr ardal

Mae prinder meddygon teulu yn broblem enfawr yn ardal LlÅ·n ac Eifionydd.

Ac mae bron i bob meddygfa yn yr ardal o leia' un meddyg yn brin.

Mae un cynghorydd lleol wedi galw am gyfarfod brys hefo'r Gweinidog Iechyd i drafod y broblem.

Does yna ddim meddygon yn ymgeisio am swyddi ac, ar ben hynny, mae llwyth gwaith meddygon teulu yn cynyddu.

Fe ddaw hyn dros wythnos ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr benderfynu cau nifer o ysbytai cymunedol a rhoi rhagor o bwyslais ar ofal yn y gymuned.

Mae hynny'n golygu mwy o waith i feddygon teulu.

Ond oherwydd bod 'na gymaint o swyddi gwag mae'r meddygon sy'n gweithio yn gorfod ysgwyddo baich tipyn trymach.

'Straen'

"Ein profiad ni yma oedd ein bod wedi hysbysebu ar draws Prydain am fis ym mis Hydref ac fe gawson ni un alwad ffôn gan feddyg yng Ngwlad Groeg," meddai Dr Melfyn Edwards, meddyg teulu yng Nghricieth.

"Dwi'n gwybod fod hyn yn brofiad hefyd yn y meddygfeydd ym Mhorthmadog, Pwllheli, Penygroes a Botwnnog.

"Mae'n fater o gonsyrn i ni, yn fater o bryder ynglŷn â sut mae'r gwasanaeth iechyd meddygon teulu yn mynd i ddatblygu yn y dyfodol a'r newidiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y bwrdd iechyd.

"Mae'n mynd i roi lot o straen ar y sefyllfa."

Mae'r cynghorydd Selwyn Griffiths, o Borthmadog, yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa.

Mae o am gael cyfarfod gyda Lesley Griffiths i weld a ellir gwneud rhywbeth i ddenu meddygon i weithio yn yr ardal.

"Y pryder mawr ydi bod nifer o feddygfeydd yn brin o feddygon.

"Mae meddygon yn mynd yn hÅ·n a be fydd yn digwydd? Methu cael neb i'w llenwi.

"Ydan ni ar drywydd y bydd y gwasanaeth yn cael ei wanhau? Dyna pam dwi wedi gwneud cais i drafod gyda'r gweinidog i weld a oes gennym ni le fel cyngor ac unigolion le i helpu."

Hyfforddiant

Dywed Dr Phil White, cynrhychiolydd meddygon teulu'r gogledd, fod angen ail-edrych ar strwythur hyfforddiant meddygon.

Mae meddygon sy'n hyfforddi yng Nghaerdydd yn dueddol o aros yn yr ardal honno i weithio, meddai, ac efallai y byddai'n ddoethach ffurfio cysylltiadau agosach hefo'r ysgol feddygol yn Lerpwl.

"Mae canran sylweddol o fyfyrwyr o Gymru yn mynd i Lerpwl, rhai yn dweud ei fod yn fwy na'r ganran o Gymry yng Nghaerdydd.

"Mae 'na argyfwng ar fin digwydd ac mae angen edrych ar ffyrdd o ddenu pobl yma i weithio neu geisio cadw'r rhai sydd ar fin ymddeol.

"I wneud hyn mae angen peidio rhoi mwy o waith a phwyso ar feddygon teulu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol