Â鶹ԼÅÄ

Bandio: Beirniadu'r system

  • Cyhoeddwyd
PupilsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion yn cael eu hasesu mewn 11 categori gwahanol i gyd

Mae undebau athrawon wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'r system fandio sydd yn cael ei defnyddio i asesu perfformiad ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Wrth ymateb i'r maen nhw'n dweud bod y system wedi ei "difrio" ymlith pobl sydd yn gweithio yn y maes.

Dywed Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans fod ei undeb yntau wastad wedi gwrthwynebu bandio: "Mae gweld ysgolion yn bownsio o un band i'r llall ddim yn rhoi ffydd i rywun fod y system yn rhoi mesur cyson a chytbwys o berfformiad ysgol."

"Diystyr" ydy'r broses bresennol yn ôl UCAC hefyd. Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb:

"Yr hyn sy'n gwneud y system fandio'n ddiystyr yw'r ymgais i gyfuno gwahanol fathau o ddata i un ffigwr, ac un categori sydd, yn y diwedd, yn anwadal ac annibynadwy.

"Yn waeth na hynny, mae'n gamarweiniol, ac yn enwedig felly i rieni a chymunedau lleol."

Ond mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn dweud bod bandio yn ffordd "hollbwysig" o weld sut mae ysgolion yn perfformio a bod yna gynnydd yn y canlyniadau.

Bandio yn system bwysig

"Mae angen inni herio a helpu ysgolion ar draws y maes addysg yng Nghymru os ydym ni am weld eu perfformiad yn gwella.

"Mae angen eu herio os ydyn nhw'n tanberfformio neu'n aros yn eu hunfan, ond cynnig y cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, yn ariannol a thrwy rannu arferion gorau, i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n pobl ifanc.

"Mae'n galonogol gweld bod cyfraddau absenoldeb wedi disgyn ers cyflwyno'r system fandio a bod perfformiad mewn arholiadau yn gwella."

Dydy'r Ceidwadwyr ddim yn ffyddiog mai dyma'r system orau i Gymru. Mae eu llefarydd addysg, Angela Burns yn dweud bod 'na gwestiynau angen eu hateb.

"Dw i ddim wedi fy modloni bod bandio ar hyn o bryd o unrhyw werth go iawn i addysg yng Nghymru. Os ydyn ni am fesur perfformiad ysgol, mi ddylai'r system fod yn deg a chaniatáu cymhariaethau tebyg wrth eu tebyg. Dw i ddim yn credu mai dyna ydy'r sefyllfa ar hyn o bryd."

Mae Ms Burns yn teimlo bod 'na botensial yn yr hyn mae bandio yn trio gwneud ond mae'n dweud bod angen system fwy effeithiol.

Perfformiad disgybl

Creu dryswch mae bandio meddai Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Yn rhy aml, rydyn ni'n clywed am rieni sydd wedi eu drysu, gan fod ysgol eu plant wedi newid band, ond canlyniadau arholiad wedi aros yr un fath.

"Gan amlaf, mae'r system fandio, a chanlyniadau arolygiadau Estyn yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac yn creu ansicrwydd ac ansefydlogrwydd o fewn y sector."

Safbwynt y Democratiaid Rhyddfrydol ydy y dylid monitro perfformiad pob disgybl yn hytrach na phob ysgol.

"Yna, gallai Llywodraeth Cymru fonitro perfformiad pob ysgol ar sail faint o'i disgyblion sy'n cyrraedd eu targedau unigol," meddai Mr Roberts.

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas mae bandio yn creu cystadleuaeth ddiangen rhwng ysgolion sydd yn effeithio ar ysbryd athrawon. Mae'r blaid yn teimlo bod angen edrych ar wella safonau ar draws y sector.

"Dyna pam y byddai Plaid Cymru mewn llywodraeth yn cael gwared a bandio ar ôl 2016 a chyflwyno system genedlaethol tracio i alluogi athrawon i fonitro datblygiad disgybl a chynnig help i ddisgyblion."

"Mi fydden ni hefyd yn buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer y sector addysg i alluogi staff i ymyrryd yn gyflym pan mae plentyn ar ei hôl hi er mwyn gwella safonau llythrenedd a rhifedd."