Â鶹ԼÅÄ

£2 filiwn i atal trais yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
Trais
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweld trais yn ogystal â'i ddioddef yn gallu cael effaith hirdymor ar blentyn, yn ôl elusennau

Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi rhoi £2 filiwn tuag at brosiect sy'n ceisio atal trais yn y cartref.

Mi fydd elusen Calan yn peilota'r gwaith gyda theuluoedd yng Nghastell Nedd a Phort Talbot am gyfnod o bum mlynedd.

Yn ogystal ag ymyrryd pan fydd plant mewn cartref lle mae trais yn digwydd, bydd Calan yn rhoi cyngor i bobl ifanc sydd mewn perthynas dreisgar neu lle mae cam-drin emosiynol yn digwydd.

Yn ôl y Loteri Genedlaethol £2 filiwn yw'r swm mwyaf o arian maen nhw erioed wedi ei roi tuag at blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Chwarter yn dioddef

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos fod trais yn y cartref yn gynyddol fwy tebygol o fod yn ffactor pan mae achosion yn cael eu cyfeirio ar y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'r ffigyrau diweddaraf - sydd ar gyfer 2012 - yn dangos fod hyn yn wir 23% o'r amser.

Yn ogystal, mae'r ystadegau'n dangos fod bron i chwarter (24%) o bobl ifanc Cymru sydd rhwng 18 a 24 wedi gweld trais yn eu cartref yn ystod eu plentyndod.

Yn ol prif weithredwr Calan, Rhian Bowen-Davies, mi fydd tystiolaeth o be sy'n gweithio'n cael ei gasglu o ledled y DU er mwyn datblygu ffyrdd effeithiol o ymyrryd.

"Lles a diogelwch y bobl yma yw'r flaenoriaeth," meddai Ms Bowen-Davies.

"Mi fyddwn ni'n ceisio torri'r cylch o drais yn y cartref sydd weithiau yn bodoli o genhedlaeth i genhedlaeth."

'Trosedd ofnadwy'

Dywedodd Lesley Griffiths AC, y gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, mai plant yw'r rhai "sy'n dioddef yn dawel" yn sgil y broblem.

"Mae trais yn y cartref yn drosedd ofnadwy," ychwanegodd.

"Nid yn unig y person sy'n dioddef sy'n cael ei effeithio ond teuluoedd cyfan. Mae unrhyw gefnogaeth i blant sy'n cael eu heffeithio oherwydd cam-drin gan riant felly i'w croesawu'n gynnes."

Mi fydd llwyddiant y fenter yn cael ei fesur gan asiantaeth arbennig sydd wedi ei greu o wahanol grwpiau lleol.