Eisteddfod Llangollen yn cynnal cyngerdd yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Hughes

Disgrifiad o'r llun, Y tenor Americanaidd Noah Stewart fydd yn canu yng nghyngerdd cyntaf Eisteddfod Llangollen yng Nghaerdydd

Bydd y tenor Americanaidd Noah Stewart yn canu mewn cyngerdd yng Nghaerdydd pan fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ymweld â'r brifddinas am y tro cyntaf erioed eleni.

Ef fydd y prif atyniad yng nghyngerdd Ysbryd Llangollen yng Nghapel y Tabernacl, Yr Aes, ar y 5ed o Orffennaf, y penwythnos cyn yr eisteddfod yn Llangollen.

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod lwyfannu cyngerdd yng Nghaerdydd a bydd Ysbryd Llangollen yn rhoi rhagflas o'r ŵyl eleni.

Bydd perfformwyr rhyngwladol, gan gynnwys Côr Synod Mizoram o India a Chôr CF1 o Gaerdydd, yn perfformio yn y capel gyda Noah Stewart o dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths.

Perfformiodd y tenor yn yr eisteddfod y llynedd a dywedodd fod y profiad wedi bod yn un "arbennig".

"Mae'r ŵyl yn ymddangos i mi fel lle o heddwch arbennig," meddai.

"Cefais fy swyno gan y gamlas sy'n rhedeg ochr yn ochr â safle'r Eisteddfod, ond yr hyn wnaeth argraff arbennig arnaf oedd y nifer enfawr o gorau sydd yn yr ardal ac, wrth gwrs, yng Nghymru gyfan.

"Mae hon yn genedl sy'n deall ac yn gwybod llawer am gerddoriaeth.

"Mae pobl yma yn canfod amser i gerddoriaeth ac mae'n chwarae rhan bwysig yn eu bywydau," dywedodd.

Yn 2013, yn ystod ei ymweliad cyntaf ag Eisteddfod Llangollen, canodd Mr Stewart 'Calon Lân' yn Gymraeg gyda'r delynores Claire Jones yn cyfeilio, a dywedodd bod canu yn Gymraeg "yn her".

"Mae mor bwysig cael yr ynganiad yn hollol gywir neu fel arall mae'r gynulleidfa'n dod yn ymwybodol ac mae hynny'n ei wneud yn ffug ac anghywir," meddai.

Eleni bydd y tenor yn un o Lywyddion y Dydd yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn ogystal â chanu yn Adiemus Colores gan Karl Jenkins. Dywedodd ei fod yn gobeithio meithrin cysylltiad hir a pharhaus â Llangollen.

Bydd yr Eisteddfod eleni hefyd yn cynnwys dychweliad Bryn Terfel i Langollen a chyngherddau gan Caro Emerald o'r Iseldiroedd a'r grŵp Status Quo a fydd yn cloi'r ŵyl gyda chyngerdd nos Sul.

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2014 yn cael ei chynnal o 8 - 13 Gorffennaf.