Â鶹ԼÅÄ

Llangollen yn cadw'r Status Quo

  • Cyhoeddwyd
Status QuoFfynhonnell y llun, Dave Coulson
Disgrifiad o’r llun,

Rick Parfitt a Francis Rossi o Status Quo

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi datgelu mai'r grŵp byd enwog Status Quo fydd prif atyniad cyngerdd cloi'r ŵyl yn 2014.

Mae'r grŵp wedi gwerthu bron 120 miliwn o recordiau ac wedi cael 64 o senglau yn y deg uchaf yn y siartiau ers iddyn nhw ffurfio yn 1967.

Nhw oedd y grŵp agoriadol yng nghyngerdd Live Aid yn 1985 gyda'r gan Rockin' All Over the World.

Ymhlith yr atyniadau eraill yng nghyngherddau'r eisteddfod bydd Bryn Terfel a pherfformiad o waith newydd gan y cyfansoddwr Karl Jenkins.

'Ffigyrau chwedlonol'

Roedd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl Eilir Owen Griffiths wrth ei fodd, a dywedodd:

"Mae Status Quo yn ffigyrau chwedlonol yn y byd roc, a nhw yw'r darn olaf yn y jig-so ar gyfer un o'r Eisteddfodau gorau erioed.

"Mae'r sêr sydd gennym yn gyffrous dros ben, ac erbyn diwedd yr wythnos fe fyddwn ni'n Rocio Ar Draws y Byd!"

Fodd bynnag fe fydd prif ganwr Status Quo, Francis Rossi, yn awyddus iawn i beidio ailadrodd camgymeriad a wnaeth wrth i'r grŵp berfformio yn Llandudno rai blynyddoedd yn ôl pan ddywedodd wrth y dorf ei bod yn braf bod yn ôl yn Lloegr!

Dywedodd Rossi: "Sut gallwn i fod wedi bod mor dwp? Roedden ni newydd ddychwelyd o daith galed i Japan ac Awstralia a doeddwn i ddim ar fy ngore'.

"'Nes i anghofio lle'r o'n i am ychydig a dydw i erioed wedi clywed bwio tebyg! Gwers i mi ar sut i golli cynulleidfa.

"Doeddwn i ddim wedi sylweddol pa mor angerddol y mae pobl Cymru am eu Cymreictod.

"Ond rwy'n gwybod y bydd Llangollen yn anhygoel ac rwy'n benderfynol o'i wneud yn achlysur arbennig."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol