Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth i barhau

Disgrifiad o'r fideo, PANTYCELYN ARLEIN

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) er mwyn datblygu cynllun busnes fydd yn golygu parhad Neuadd Pantycelyn fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant.

Bydd y cynllun yn cynnwys datblygu opsiynau ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg, yn ôl datganiad y brifysgol.

'Canolbwynt'

Yn ôl y brifysgol, bydd y Ganolfan Gymraeg a Diwylliant yn ganolbwynt i'r gymuned Gymraeg, gan gynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach yn y dref.

Y bwriad oedd symud y myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais ryw hanner milltir o'r neuadd.

Disgrifiad o'r llun, Bu nifer o fyfyrwyr Aberystwyth yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn.

O ganlyniad fe fu protestiadau chwyrn gan nifer o fyfyrwyr oedd am i Neuadd Pantycelyn barhau fel llety i fyfyrwyr Cymraeg.

Dadl UMCA oedd na fyddai'r fflatiau yn darparu'r math o awyrgylch oedd ei angen er mwyn cynnal cymuned Gymraeg ffyniannus.

Dywedodd Mared Ifan, Llywydd UMCA, "Rydyn ni wrth ein bodd ac yn croesawu penderfyniad y Brifysgol yn fawr. Diolch i holl aelodau UMCA am eu gwaith caled, ac i'n cefnogwyr i gyd. Ar ôl yr holl ymgyrchu, rydyn ni wedi sicrhau llwyddiant anferthol."

Bydd Gweithgor a Fforwm Staff a Myfyrwyr Cymraeg yn cael ei sefydlu yn yr wythnos nesaf er mwyn sicrhau dilyniant i'r trafodaethau meddai UMCA.

Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn nechrau'r 1950au ond yn 1974 y daeth yn neuadd breswyl Gymraeg.