Â鶹ԼÅÄ

Rali Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Protest PantycelynFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y brotest am hanner dydd

Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi bod yn protestio am eu bod yn anfodlon ar gynlluniau'r brifysgol i gau Neuadd Pantycelyn.

Dechreuodd y rali am hanner dydd.

Roedd 150 yn gwrando ar areithiau Elin Jones, AC Ceredigion, ac areithiau llywydd a chyn-lywyddion UMCA, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, tu allan i'r neuadd.

Yna roedd gorymdaith cyn meddiannu swyddfeydd yr Is-ganghellor, April McMahon.

Fflatiau newydd

Bu trafodaeth rhwng Llywydd UMCA, Mared Ifan, a'r Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru.

Bwriad y brifysgol yw symud y myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais ryw hanner milltir o'r neuadd.

Maen nhw wedi dweud y bydd y cyfleusterau'n well.

Dadl UMCA yw na fyddai'r fflatiau yn darparu'r math o awyrgylch sydd ei angen er mwyn cynnal cymuned Gymraeg ffyniannus.

Ond mae'r brifysgol yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i wella'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr Cymraeg.

1974

Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn nechrau'r 1950au ond yn 1974 y daeth yn neuadd breswyl Gymraeg.

Mae'r gwaith wedi cychwyn ar y llety newydd sydd wedi costio £45 miliwn gyda phob ystafell yn un en-suite.

Y cynllun gwreiddiol oedd y byddai'r neuadd yn cau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol ond mae'r brifysgol bellach wedi penderfynu gohirio'r newid tan ddechrau blwyddyn academaidd 2015-16.

Dywedodd UMCA nad oedd y rhai oedd yn y neuadd am symud oddi yno.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth neuadd Pantycelyn yn neuadd Gymraeg yn 1974

"Pwrpas cynnal y rali ydy cadw Pantycelyn ar agor", meddai Mared Ifan, "alla' i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw hyn.

"Mae dyfodol cymuned Gymraeg Aberystwyth yn y fantol. Fydd hi yn golled i Gymru gyfan, nid yn unig i Aberystwyth os bydd Pantycelyn yn cau."

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod wedi "ymrwymo yn llwyr i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac o wneud hynny, sicrhau bod myfyrwyr yn medru cyfrannu at gynnal a datblygu ethos gymunedol Gymraeg y brifysgol."

Ond mae UMCA wedi dweud nad yw'r cyfleusterau fyddai ar gael yn y fflatiau yn gweddu i'r myfyrwyr Cymraeg.

"Does 'na ddim lle digonol i Aelwyd Pantycelyn ymarfer yn wythnosol, dim swyddfa UMCA na ffreutur - elfennau sydd yn gwbl hanfodol wrth geisio cynnal ein cymuned o fyfyrwyr Cymraeg," meddai'r llywydd.

Adnoddau i'r myfyrwyr

Honnodd Mared Ifan nad oedd digon o ymgynghori wedi bod efo myfyrwyr gyda sgyrsiau yn cael eu cynnal gyda hi a chyn lywyddion UMCA ond ddim gyda'r bobl oedd yn byw yno.

Ond dywedodd y brifysgol eu bod wedi cynnwys cynrychiolwyr y myfyrwyr ar hyd y blynyddoedd a gadael iddyn nhw wybod am y cynlluniau.

Mae'r brifysgol wedi dweud y bydd blociau o fflatiau penodol ar gyfer y myfyrwyr Cymraeg yn y llety newydd, yn ogystal â llefydd arbennig i'r Cymry Cymraeg fedru cymdeithasu.

Dywedodd y brifysgol: "Bydd y llety newydd o safon uchel ac yn fflatiau hunanarlwyo o rhwng 6 ac 8 ystafell wely, pob un gyda chyfleusterau en-suite, cegin/ystafell fwyta/lolfa a theledu."

Wrth gydnabod bod angen moderneiddio Pantycelyn, mae llywydd yr undeb wedi dweud y byddai cost ailwneud y neuadd tu fewn yn llawer llai na'r miloedd sydd wedi eu gario ar adeiladu'r llety newydd.

Cyfarfod

Dywedodd UMCA fod cyfarfod wedi ei gynnal nos Lun gyda'r dirprwy is-ganghellor a'r cyfarwyddwr gwasanaeth campws er mwyn trafod y mater.

"Mi oedd gan y myfyrwyr nifer o gwestiynau a dwi ddim yn eu beio nhw. Dwi'n meddwl y cafodd y brifysgol sioc achos bod y myfyrwyr yn anhapus."

Yn sgil y cyfarfod dywedodd Mared Ifan fod y brifysgol wedi penderfynu na fydd rhaid i unrhyw un symud am flwyddyn arall ac mai'r bwriad fyddai symud y myfyrwyr erbyn 2015.

Dim penderfyniad

Does yna ddim penderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd i'r adeilad pan fydd y myfyrwyr yn gadael.

Mae'r brifysgol yn bwriadu ystyried yr opsiynau posib.

Ond mae Mared Ifan wedi galw arnyn nhw i ailystyried.

"Ni'n galw ar y brifysgol i feddwl am y Cymry Cymraeg. Mae'r Cymry Cymraeg yn rhan o apêl marchnata Prifysgol Aberystwyth.

"Ni'n galw arnyn nhw i gadw neuadd Pantycelyn fel neuadd Gymraeg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol