Y Prif Weinidog Carwyn Jones am weld 80 Aelod Cynulliad

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Byddai'n gamgymeriad cysylltu'r syniad o gynyddu nifer yr ACau gyda ehangu ar rymoedd, yn ôl Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai'n ffafrio gweld Cynulliad o 80 o aelodau, yn hytrach na'r 60 presennol.

Ond fe ddywedodd y byddai'r syniad o gynyddu nifer yr aelodau yn ''anodd i'w werthu'' i'r cyhoedd, yn enwedig heb gwtogi ar wleidyddion mewn haenau eraill o lywodraeth.

Dyma'r tro cynta' i Carwyn Jones ddweud yn glir ei fod o blaid cynyddu nifer yr aelodau.

Ond wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones nad oedd am weld y syniad o fwy o ACau yn cael ei gyplysu gyda mwy o ddatganoli.

'Syniad anodd'

Meddai: ''Rwy'n ymwybodol fod aelodau'r meinciau cefn o bob plaid yn gweithio'n hynod o galed, yn enwedig ar y pwyllgorau deddfu sydd gennym ni yma.

''Dydw i ddim yn awyddus fodd bynnag i gysylltu'r syniad fod mwy o rym yn golygu mwy o wleidyddion - dwi'n meddwl y byddai hwn yn syniad anodd iawn i'r cyhoedd ei gefnogi, o gofio y bydden nhw'n gweld hyn fel ymdrech i gael mwy o wleidyddion.

''Rwy'n meddwl for 80 o aelodau'n well o ran y siambr yma. Ond rydw i'n hollol ymwybodol o'r ffaith fod awgrymu wrth y cyhoedd y dylid cael mwy o wleidyddion, heb gwtogi ar y nifer y gwleidyddion mewn mannau eraill, yn mynd i fod yn anodd iawn i'w werthu.''

Ddechrau fis Mawrth, fe awgrymodd Comisiwn Silk y dylid datganoli mwy o rymoedd i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyfrifoldeb dros yr heddlu a'r system gyfiawnder ieuenctid.

Fe awgrymodd y Comisiwn hefyd y dylid cynyddu'r nifer presennol o Aelodau Cynulliad, ond doedd y ddogfen ddim yn manylu ar niferoedd.