Â鶹ԼÅÄ

Llywydd: 'Angen mwy o ACau'

  • Cyhoeddwyd
Y Fonesig Rosemary Butler
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Fonesig Rosemary Butler bod angen 80 o ACau yn hytrach na'r 60 presennol

Wrth gyflwyno'i thystiolaeth i'r pwyllgor sy'n craffu Mesur Drafft Cymru, mae disgwyl i Lywydd y Cynulliad - y Fonesig Rosemary Butler - ddweud bod angen mwy o aelodau cynulliad.

Bydd y Fonesig Butler yn cyflwyno'i gweledigaeth ar gyfer Cynulliad cryf a fydd yn gallu craffu'n briodol ar y pwerau ariannol arfaethedig newydd.

Mae'r weledigaeth honno yn galw am ddatganoli'r pŵer i ganiatáu i'r Cynulliad reoli'r broses o bennu ei gyllideb ei hun a chynyddu nifer yr aelodau cynulliad i 80, er mwyn sicrhau y gellir craffu'n briodol ar bwerau trethu a benthyca.

Yn y dystiolaeth y bydd yn ei chyflwyno i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, sy'n clywed tystiolaeth yn y Cynulliad fel rhan o waith craffu cyn deddfu mewn perthynas â Mesur Drafft Cymru, bydd yn dweud:

  • Y byddai'n anghyson rhoi pwerau dros drethu a benthyca i'r Cynulliad, ond peidio â rhoi'r rheolaeth gyfreithiol iddo benderfynu ar y broses ar gyfer defnyddio pwerau o'r fath; ac felly -

  • Y dylid diwygio Mesur Drafft Cymru er mwyn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru'r rheolaeth gyfreithiol i newid ei broses gyllidebol ei hun.

'Dim ond 42 ar gael'

Bydd hefyd yn pwysleisio'r ffaith, er bod gan y Cynulliad 60 o Aelodau ar hyn o bryd i ddeddfu a dwyn y Llywodraeth i gyfrif, gan na all gweinidogion y llywodraeth a deiliaid rhai swyddi eraill fod yn aelodau o bwyllgorau, dim ond 42 o Aelodau sydd ar gael i gyflawni'r gwaith craffu manwl a wneir gan ein Pwyllgorau.

Bydd yn nodi, yn sgîl y cyfrifoldebau ychwanegol a roddir o dan y Mesur Drafft, y byddai hefyd yn briodol i Fesur Cymru gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80.

Bydd y Llywydd yn dweud: "Mae fframwaith gweithdrefnau cyllidebol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sef deddf nad oes modd i'r Cynulliad ei diwygio ar hyn o bryd.

"Er y bydd modd newid rhywfaint ar y broses heb newid deddfwriaethol, mae'n bosibl na fydd y weithdrefn hon yn addas i'r diben ar ôl cyflwyno pwerau trethu a benthyca, ac felly bydd yn hanfodol newid y weithdrefn, fel y nodwyd yn Adroddiad cyntaf Comisiwn Silk.

"Mae'r pwerau ariannol ychwanegol hyn i'w croesawu, ond mae'n hanfodol bod Mesur Cymru hefyd yn rhoi i'r Cynulliad y rheolaeth a'r capasiti sydd eu hangen i sicrhau y cânt eu defnyddio mewn ffordd effeithiol i bobl Cymru."

Bydd y Llywydd hefyd yn galw am y canlynol mewn perthynas â'r Mesur Drafft:

  • Dylid cyfeirio at y Cynulliad fel Senedd (mae'n adlewyrchu ein pwerau deddfu) a theitl y Llywydd fel 'Llefarydd';

  • Diwygio'r Mesur i'w gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gynnull o fewn 14 diwrnod, yn hytrach 7 diwrnod fel y nodir ar hyn o bryd, ar ôl etholiad y Cynulliad i adlewyrchu'r ffaith nad oes yr un blaid yn debygol o sicrhau mwyafrif, a chaniatáu rhagor o amser i drafod creu clymblaid;

  • Ailystyried dyletswyddau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod llawer ohonynt yn ymddangos wedi dyddio bellach, a diwygio pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru;

  • Cael gwared ar y cyfyngiadau ar gyfansoddiad Pwyllgorau'r Cynulliad, gan mai'r Cynulliad a ddylai benderfynu hynny drwy ei reolau Sefydlog.