Datganiad yr Hydref: Yr uchafbwyntiau

Disgrifiad o'r llun, Y Canghellor George Osborne

Bydd gweinidogion Cymru yn derbyn tua £100m ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor, George Osborne.

Mae'r arian yn dod er gwaethaf toriadau o £3 biliwn i adrannau eraill.

Soniodd Mr Osborne am "gytundeb cydweithio" ynglŷn ag ariannu gorsaf pŵer niwclear yn Wylfa ar Ynys Môn.

Bydd yr oed mae pobl yn derbyn pensiwn gwladol yn codi a bydd cap yn cael ei roi ar wariant cymdeithasol.

'Diffyg ar i lawr'

Cododd y Canghellor George Osborne ar ei draed am 11:16am i ddechrau traddodi Datganiad yr Hydref.

Mae'r datganiad bellach bron mor bwysig â'r Gyllideb o safbwynt cynlluniau ariannol llywodraeth y DU.

Dechreuodd trwy ddweud bod polisïau'r llywodraeth i ddatrys y dirwasgiad yn gweithio, ond nad oedd hi'n amser i roi'r gorau i'r polisïau yna tan i'r gwaith gael ei gwblhau.

"Mae angen sicrhau'r economi yn y tymor hir," meddai, " ac mae'r risg fwyaf i hynny yn dod gan y rhai fyddai'n rhoi'r gorau i'r cynllun."

Ychwanegodd bod aberth a dyfal barhad pobl Prydain wedi arwain at dystiolaeth bod y cynllun economaidd yn gweithio.

"Mae diffyg y wlad i lawr, ond mae'n dal yn rhy uchel a heddiw byddwn yn gwneud mwy o benderfyniadau anodd.

"Mae'r rhagolygon yn dangos bod twf ar i fyny, ond mae'r un rhagolygon yn dangos bod y twf mewn cynnyrch yn dal yn rhy isel."

Ffynhonnell y llun, AP

Disgrifiad o'r llun, Y Canghellor a Phrif Ysgrifenydd y Trysorlys yn cyrraedd y senedd

Ychwanegodd y byddai'n cynnig cymorth i deuluoedd sy'n gweithio'n galed, ond bod ei ddatganiad hefyd wedi ei gynllunio i ateb y problemau dybryd o wario anghynaliadwy, trethi sydd ddim yn gystadleuol a gwasanaethau cyhoeddus sydd heb eu diwygio.

Ym mis Mawrth fe ddywedodd y Swyddfa dros Gyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) eu bod yn rhagweld y byddai economi Prydain yn tyfu o 0.6%.

Ond dywedodd Mr Osborne bod yr OBR bellach yn rhagweld twf o 1.4% eleni, a 2.4% yn hytrach na 1.8% y flwyddyn nesaf.

Cadarnhaodd ei fod yn rhagweld y byddai gweddill ariannol bychan gan y wlad erbyn 2018-19, a bod y diffyg wedi disgyn o 11% yn 2010 i 6.8% eleni.

Cynnydd Barnett

Yna fe ddechreuodd y canghellor gyda'r negeseuon penodol am doriadau pellach.

Dywedodd y byddai cyllidebau adrannau'r llywodraeth yn cael eu cwtogi dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau arbedion o £3 biliwn.

Fe fydd cyllidebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysgolion yn cael eu gwarchod fel o'r blaen.

Dywedodd hefyd bod Fformiwla Barnett - sydd yn penderfynu beth fydd cyllidebau'r gwledydd unigol - yn golygu y bydd cyllidebau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweld cynnydd net.

Pensiynau

Yna fe ddaeth yr ergyd wrth i Mr Osborne siarad am bensiynau'r wladwriaeth.

"Rhaid i ni sicrhau bod pensiwn y wladwriaeth yn fforddiadwy yn y dyfodol wrth i bobl dyfu'n hyn," meddai.

"Yr unig ffordd i wneud hynny yw sicrhau bod pensiynau'n cadw cysylltiad â disgwyliad oedran pobl.

"Byddai gweithredu'r egwyddor yna yn golygu codi oed ymddeol i 68 yng nghanol y 2030au, ac i 69 ar ddiwedd y 2040au. Bydd yr union ddyddiadau'n cael eu cyhoeddi mewn adolygiadau statudol i ddod."

Dywedodd Mr Osborne hefyd y byddai cyfyngu ar wariant cymdeithasol o'r flwyddyn nesaf, ond na fyddai pensiwn y wladwriaeth yn rhan o'r cyfyngiad yna.

Wrth siarad am ynni fe gadarnhaodd Mr Osborne y cytundeb gafodd ei arwyddo ddydd Mercher gyda chwmni Hitachi ar gyfer codi gorsaf niwclear ar Ynys Môn.

Dywedodd hefyd nad oedd hi'n iawn i droi cefn ar ffynhonellau newydd o ynni megis nwy siâl - testun arall sydd wedi bod yn bwnc llosg yng Nghymru.

Trethi busnes

Aeth y canghellor ymlaen i drafod trethi busnes, a dywedodd y byddai'n cyfyngu ar y cynnydd mewn treth busnes i 2% o fis Ebrill 2014.

Yn dilyn cyhoeddiad David Cameron a Nick Clegg ym mis Tachwedd bod y llywodraeth yn bwriadu gweithredu nifer fawr o argymhellion Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau, fe fydd cyfrifoldeb am drethi busnes yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd, ond does dim disgwyl i hynny ddigwydd tan 2015.

Cyhoeddodd hefyd fanylion cynllun i adfywio'r Stryd Fawr, gan gyhoeddi y bydd yn haneru cyfraddau trethi busnes i bobl sy'n symud i mewn i siopau sydd wedi eu cau, ond dim ond yn Lloegr y bydd hynny'n weithredol.

Newyddion da arall i yrwyr a ddaeth nesaf o enau'r canghellor wrth iddo gyhoeddi y byddai'n parhau i rewi'r dreth ar danwydd, gan ohirio'r cynnydd oedd i fod i ddigwydd y flwyddyn nesaf.

"Mae hynny'n golygu," meddai, " bod pris litr o danwydd yn aros yr un peth yn hytrach na chodi 2 geiniog."

Gorffennodd drwy ddweud: "Mae hwn yn gynllun difrifol i'r wlad, ond dyw'r gwaith heb ei gwblhau.

"Drwy wneud y peth iawn, rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

"Mae Prydain yn symud: gadewch i ni gadw i fynd."