Â鶹ԼÅÄ

Newidiadau i daliadau ynni adnewyddol

  • Cyhoeddwyd
Fferm wynt yn y môrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gymhorthdaliadau ar gyfer ffermydd gwynt gynyddu ar drael prosiectau ar y tir

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno newidiadau sylweddol i'r drefn o ariannu cynlluniau ynni adnewyddol.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi cael ar ddeall y bydd gweinidogion yn cyhoeddi y byddan nhw'n cwtogi ar y cymhorthdal i ffermydd gwynt ar y tir ac ynni haul, ac yn rhoi mwy o gefnogaeth i ffermydd gwynt yn y môr.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander wedi ei ddisgrifio fel newid pwyslais, gan ddweud na fydd gostyngiad yng nghyfanswm y cymorthdal fydd ar gael.

Yn ôl Gweinidog Ynni'r DU, Michael Fallon, mae'n rhaid gwasgaru costau "yn llawer tecach".

Ond mae Llafur yn dadlau y bydd "newid prisiau" yn ddrwg i fusnes.

Bydd y prisiau sydd wedi'u gosod ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ac ynni haul yn gostwng o 2015 ymlaen, tra bydd prisiau ar gyfer ffermydd gwynt yn y môr yn cynyddu.

Bydd y ffigurau terfynol yn cael eu cyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig yn ddiweddarach.

Daw'r newid polisi wrth i'r Canghellor George Osborne baratoi i gyflwyno Datganiad yr Hydref ddydd Iau.

Ymhlith y cynlluniau eraill fydd yn rhan o'r datganiad, mae'r Â鶹ԼÅÄ yn deall bod Mr Osborne hefyd yn bwriadu cyflwyno uchafswm o 2% ar unrhyw gynnydd mewn trethi busnes yng Nghymru a Lloegr y flwyddyn nesa', yn hytrach na'u cysylltu â chwyddiant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol