Â鶹ԼÅÄ

Mwy o swyddi yn Airbus

  • Cyhoeddwyd
Brychdyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae 6,000 yn gweithio ym Mrychdyn, Sir y Fflint

Mae cwmni Airbus wedi cyhoeddi eu bod nhw'n creu mwy o swyddi yn y gogledd fel rhan o gynllun i gyflogi 3,000 yn Ewrop eleni.

Dywedodd y cwmni y byddai 300 o swyddi yn cael eu rhannu rhwng ffatrïoedd Brychdyn yn Sir y Fflint a safle Filton ger Bryste.

Bydd manylion am swyddi yn Sioe Awyr Ryngwladol Paris yn ddiweddarach yn y mis.

"Mae'r 3,000 o swyddi oherwydd datblygiadau fel awyren yr A320neo a'r A350 XWB," meddai llefarydd.

"Bydd graddedigion ifanc â llai na thair blynedd o brofiad yn gallu gwneud cais am fwy na 33% o'r swyddi."

Dywedodd fod y swyddi'n cynnwys peirianwyr systemau, peirianwyr strwythurol a rhai yn yr adran gynhyrchu.

Ar hyn o bryd mae 6,000 yn gweithio ym Mrychdyn.