Â鶹ԼÅÄ

Gwrthod parc gwyliau newydd ger Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Datblygiad Land & Lakes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gais i godi 500 o fythynnod ar safle Penrhos ger Caergybi

Mae cynghorwyr Môn wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i gynllun dadleuol i godi parc gwyliau ger Caergybi.

Pleidleisiodd cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio o bump i ddau ac ymataliodd un.

Bydd cyfarfod arall y cyngor yn trafod y cais oherwydd bod y pwyllgor wedi mynd yn groes i argymhellion swyddogion cynllunio.

Bwriad cwmni Land & Lakes oedd codi 500 o fythynnod ar dir oedd yn eiddo i gwmni Alwminiwm Môn ym Mharc Arfordir Penrhos.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cynlluniau, gan ddweud y byddai'r datblygiad yn denu twristiaeth i'r gogledd-orllewin.

Ond mae grŵp o wrthwynebwyr wedi dweud bod y cynllun yn rhy fawr.

600 o swyddi

Daeth gwaith cynhyrchu alwminiwm ar y safle i ben yn 2009 a diflannodd 400 o swyddi.

Roedd y cynllun yn cynnwys cannoedd o fythynnod ynghyd â chaffis, tafarndai, siopau a meysydd chwarae.

Yn ôl Land & Lakes, byddai hyn yn creu 600 o swyddi ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad oedd codi cannoedd o fythynnod ar safle Cae Glas

Roedd y cwmni wedi dweud y gallai 300 o unedau llety ar safle Cae Glas gael eu defnyddio gan weithwyr sy'n adeiladu gorsaf bŵer niwclear Wylfa B.

Mae prif weithredwr y cwmni wedi dweud ei bod yn hynod siomedig gyda'r newyddion a'i bod yn teimlo bod hwn yn gyfle na ddylid cael ei wastraffu. Dywed Richard Sidi y byddant yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Pan gafodd y cynllun ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2011, dywedodd un o'r comisiynwyr oedd yn gyfrifol am Gyngor Sir Ynys Môn ar y pryd, y gallai'r parc fod yn hwb i'r ardal.

Roedd Alex Aldridge ywedi dweud: "Mae'r awdurdod wedi bod yn cydweithio'n barhaol gydag Alwminiwm Môn a Llywodraeth Cymru er mwyn creu swyddi ar y tir sydd ar hyn o bryd ym mherchnogaeth Alwminiwm Môn.

"Mae hyn yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn er mwyn cyflawni'r nod yma.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynllun yn golygu bod gweithwyr sy'n adeiladu gorsaf bŵer Wylfa yn defnyddio 300 o'r bythynnod

"Mae posibilrwydd hefyd o greu rhagor o swyddi sylweddol ar yr hen safle gwaith fyddai'n hwb bellach sylweddol ar gyfer economi Caergybi a'r ynys ehangach."

Gwrthwynebiad

Ond mae grŵp o ymgyrchwyr lleol yn erbyn y cynllun ar y sail ei fod yn rhy fawr i'r tir sydd ar gael.

Mae deiseb yn erbyn y cynllun wedi ei harwyddo gan 1,200 o bobl tra bod deiseb arall gyda 800 o enwau wedi ei hanfon at Llywodraeth Cymru.

Roedd Mike Pendragon o Gaergybi wedi dweud ei fod wedi ei frawychu gan faint y prosiect ar gyfer y safle 192 erw ym Mhenrhos.

Roedd hefyd yn feirniadol o swyddi posib fyddai'n deillio o'r cynllun.

Honnodd mai swyddi tymhorol fyddai ar gael ac nid swyddi llawn amser.

Roedd rhai hefyd wedi dweud eu bod yn pryderu am effaith y datblygiad ar wasanaethau lleol a'r iaith Gymraeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol