Â鶹ԼÅÄ

Wylfa: Cartrefi i hyd at 2,000?

  • Cyhoeddwyd
Yr Wylfa
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr Wylfa gynhyrchu ynni yn 1971

Bydd cynlluniau i ddarparu cartrefi i hyd at 2,000 o weithwyr fyddai'n adeiladu Wylfa B yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ynys Môn yr wythnos hon.

Bydd Land and Lakes Ltd yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer safle 29 hectar ym Mhenrhos ger Caergybi.

Dywedodd y cwmni, a leolir yn Cumbra, y byddai'r datblygiad yn cael ei thrawsnewid i fod yn bentref gwyliau gyda 315 uned ar ôl i'r gwaith o adeiladu'r orsaf gael ei gwblhau.

Byddai'r cynllun hefyd yn cynnwys gwesty, bwyty, siopau a chanolfan ymwelwyr.

Byddai 360 o dai hefyd yn cael eu hadeiladu ar safle yn Kingsland.

Ar y cyfan mae cynghorwyr tref wedi cefnogi'r cynlluniau, ond mae rhai ymgyrchwyr lleol wedi gwrthwynebu'r datblygiad ger gwarchodfa natur Penrhos.

6,000 o swyddi

Fis diwethaf, cyhoeddodd cwmni Hitachi o Japan eu bod wedi cytuno i brynu prosiect niwclear Horizon.

Mae'r prosiect yn cynnwys datblygu atomfa newydd ar safle'r Wylfa ar Ynys Môn.

Mae'n gynllun gwerth £8 biliwn ac y gallai hyd at 6,000 o swyddi gael eu creu wrth i'r adweithyddion newydd gael eu hadeiladu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol