Â鶹ԼÅÄ

Gwario £2bn ar ddiwydiant

  • Cyhoeddwyd
Lion Air
Disgrifiad o’r llun,

Yr archebwr yw Lion Air o Indonesia.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd £2bn yn cael ei wario ar hybu'r genhedlaeth nesa' o awyrennau.

Bydd y llywodraeth yn darparu hanner yr arian a'r cwmnïoedd yn darparu'r gweddill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable fod y diwydiant yn "sylweddol".

"Mae'n cefnogi mwy na 3,000 o gwmnïoedd ac yn cyflogi 230,000.

"Erbyn 2031 bydd y farchnad awyrofod sifil yn werth mwy na $4.5 triliwn."

Yn y cyfamser, mae cwmni Airbus, sy' hefyd yn cyflogi miloedd yn Sir y Fflint, wedi cael eu harcheb fwya, 234 o awyrennau ar gost o £15.7bn.

Yr archebwr yw Lion Air o Indonesia.

Mae'r archeb yn diogelu 5,000 o swyddi yn Ffrainc.