Ymchwiliad i ffermydd gwynt i bara blwyddyn?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae cyngor Powys wedi casglu £2.8m ynghyd i ariannu'r gwrandawiad ffermydd gwynt

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus mwya' erioed ym Mhrydain i ffermydd gwynt wedi dechrau ym Mhowys.

Mewn gwesty yn Y Trallwng, bydd dadleuol o blaid ac yn erbyn ynni gwynt yn cael eu cyflwyno ac fe allai'r gwrandawiad bara hyd at flwyddyn.

Daeth tua 300 o brotestwyr ynghyd wrth y gwesty wrth i'r ymchwiliad ddechrau ddydd Mawrth.

Mae'r cyngor wedi clustnodi £2.8 miliwn i ariannu'r ymchwiliad, gyda rhai cynghorwyr yn pryderu am gost y cyfan.

Dros y misoedd nesa' bydd pump o gwmnïau datblygu a chwmni darparu trydan yn cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad.

Ers dwy flynedd mae anghytuno a gwrthwynebu codi tyrbinau a pheilonau trydan wedi dod yn bwnc llosg yn Sir Drefaldwyn.

Andrew Poulter yw'r Arolygydd Cynllunio fydd yn gwrando ar dystiolaeth o blaid caniatáu neu wrthod codi rhagor o ffermydd gwynt a llinell gebl trydan newydd rhwng Llandinam a'r Trallwng yng nghanolbarth Cymru.

160 tyrbin

Cafodd yr ymchwiliad ei alw gan Adran Ynni San Steffan wedi i gyngor Powys wrthod cefnogi'r cynlluniau.

Mae pum cwmni - Vattenfall, RWE npower, RES, Celtpower a chwmni Fferm Wynt Lleithdu - ynghyd â'r darparwr trydan Manweb yn mynd i wynebu 21 o gyrff sydd am atal rhagor o ddatblygu.

Mae'r cwmnïau eisiau caniatâd i godi 160 o dyrbinau newydd, fyddai â'r potensial i gynhyrchu dros 500 megawat o ynni.

Mae 17 o grwpiau protest a chadwraeth ymhlith 21 o sefydliadau sy'n gwrthwynebu'r ffermydd gwynt, yn ogystal â chynlluniau'r Grid Cenedlaethol i godi is-orsaf newydd ger Cefn Coch yn Sir Drefaldwyn a chyfres o beilonau dur rhwng canolbarth Cymru a'r Amwythig.

Fe gyflwynodd ymgyrchwyr yn erbyn y tyrbinau a'r peilonau yn ddeiseb i'r ymchwiliad ddydd Mawrth ag arni 7,458 o enwau.