Amgueddfa Guggenheim i Gymru?

Disgrifiad o'r llun, Agorwyd yr Amgueddfa Guggenheim gyntaf yn Efrog Newydd

Mae cyn Aelod Seneddol wedi dweud y dylai'r Amgueddfa Guggenheim ddod i Gymru.

Mae'r amgueddfeydd, sy'n cyfuno pensaernïaeth unigryw gyda chelf fodern, yn Efrog Newydd, Fenis a Bilbao.

Yn ôl Adam Price, nawr yw'r amser i anelu yn uchel a sefydlu un yng Nghymru.

'Cyfle euraid'

"Mae'r Guggenheim yn chwilio i ehangu ei rhwydwaith," meddai.

"Y bwriad oedd agor amgueddfa newydd yn Helsinki erbyn diwedd y ddegawd. Dyw hynny ddim am ddigwydd.

"Felly mae 'na fwlch a chyfle euraid fan hyn i Gymru fachu ar y cyfle i ddod ... â'r rhwydwaith amgueddfeydd celf enwocaf yn y byd."

Ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher mi oedd yn cydnabod y byddai'n rhaid gwneud yn siŵr y byddai'r buddsoddiad economaidd ar gael i wneud y cynllun i weithio.

Ond mae'n teimlo y gallai Cymru elwa fel y gwnaeth Bilbao yng Ngwlad y Basg pan agorwyd y Guggenheim yno.

Denu ymwelwyr

Dywedodd fod yr amgueddfa honno yng Ngwlad y Basg wedi creu diwydiant twristaidd 'o ddim byd' a bod miloedd yn tyrru yno i weld y celf.

Gyda Llywodraeth Cymru yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd, meddai, roedd angen strategaeth i ddenu ymwelwyr yma.

"Rydyn ni wedi darllen yn y dyddiau diwethaf fod ffigyrau ymwelwyr rhyngwladol wedi disgyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Byddai rhywbeth fel y Guggenheim yn ein rhoi ni ar fap byd eang. Mae hynny yn creu posibiliadau diwylliannol. Mae'n creu posibiliadau economaidd i ni hefyd."

Trafodaethau

Mae trafodaethau cychwynnol wedi dechrau gydag unigolion yn y byd cyhoeddus a'r byd celf megis yr Arglwydd Dafydd Wigley ac Yvette Vaughan-Jones, Prif Weithredwr Prydain Visiting Arts i weld os oes modd sefydlu Guggenheim yng Nghymru.

Lleoliadau posib yw Caerdydd neu Abertawe.

Mae Sir Benfro neu Wynedd hefyd wedi eu crybwyll a phe byddai hynny yn digwydd mi fyddai'r amgueddfa am y tro cyntaf mewn ardal wledig.