Â鶹ԼÅÄ

Taflu golau ar waith celf, y tro cynta' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Arddangosfa wedi ei drefnu gan B I TFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Tri artist sydd wedi trefnu'r noson

Roedd ardal Y Sblot yng Nghaerdydd yn llawn goleuadau nos Wener wrth i griw o artistiaid ddefnyddio taflunydd i ddangos eu gwaith celf.

Syniad gychwynnodd gan Rafaël Rozendaal, dyn sydd yn byw a gweithio yn Efrog Newydd, yw "Bring your own beamer".

Y bwriad yw bod artistiaid yn defnyddio taflunydd o ryw fath i arddangos eu gwaith am un noson.

Mae'r syniad yn un sydd wedi cydio gyda nosweithiau wedi eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol.

Nos Wener oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru a thri arlunydd sydd wedi trefnu'r digwyddiad.

Fe sefydlodd y tri, Ifan Lewis, Tom Winfield a Bob Gelsthorpe, B I T flwyddyn yn ôl er mwyn cefnogi ac arddangos gwaith artistiaid.

Erbyn hyn mae ganddyn nhw stiwdio yn Y Sblot gyda dylunwyr amrywiol yn rhentu gwagle yno ac mae nifer o ddigwyddiadau celf yn cael eu cynnal yn y lleoliad.

Y gwaith celf

Ffotograffiaeth a ffilmiau fydd y mwyafrif o'r artistiaid yn dangos.

Tra bod rhai'n defnyddio taflunydd arferol mae unigolion eraill yn defnyddio goleuadau beic, Playstation, torsh a lamp Japaneaidd i ddangos eu gwaith.

Ifan Lewis, 22 oed, oedd un o'r rhai'n cymryd rhan.

Roedd yn dangos lluniau o berfformiad celf gan Bob Gelsthorpe pan yr aeth ati i dorri ei wallt ac yna i greu brwshys paent gyda'r gwallt hwnnw.

Dywedodd: "O'n i yn hoffi'r syniad oherwydd mae'n rhoi cyfle i bobl wahanol arddangos ar bwys ei gilydd.

"Hefyd rwy'n hoffi'r syniad o gyfochri gwahanol artistiaid sydd falle yn hollol wahanol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol