Â鶹ԼÅÄ

Mesur priodas hoyw yn cael ei gymeradwyo

  • Cyhoeddwyd
Priodas houw
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mesur nawr yn mynd i DÅ·'r Arglwyddi

Mae TÅ·'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid cyfreithloni priodas hoyw yng Nghymru a Lloegr o 366 pleidlais i 161.

Siaradodd amryw o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn erbyn mesur y llywodraeth, sydd wedi achosi tensiynau o fewn y blaid, ond fe wnaeth arweinwyr y gwrthbleidiau bleidleisio o'i blaid.

Bu cymeradwyaeth yn y siambr pan gyhoeddwyd canlyniad y bleidlais.

Bydd y mesur nawr yn mynd o flaen TÅ·'r Arglwyddi.

Nos Lun fe drechwyd gwelliant allai fod wedi rhoi y mesur yn y fantol.

Roedd rhai yn erbyn y mesur wedi cynnig gwelliant i ganiatáu i gyplau heterorywiol gael partneriaethau sifil os caniateir i gyplau o'r un rhyw briodi.

Roedd gweinidogion wedi dweud y gallai hynny achosi oedi i'r mesur a chostio biliynau o bunnoedd.

Ond fe wnaeth gweinidogion gefnogi cynlluniau'r Blaid Lafur i gynnal ymgynghoriad ar bartneriaethau sifil er gwaethaf gwrthwynebiad rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Roedd mwyafrif o 225 o bleidleisiau dros y mesur pan gafodd ei drafod ym mis Chwefror a bron hanner yr Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ei erbyn.

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y byddai priodas gyfartal yn gymorth i adeiladu cymdeithas gryfach a thecach ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a'r arweinydd Llafur Ed Miliband yn ei gefnogi.

Mae ASau yn cael pleidlais rydd ar y mesur gan ei fod yn cael ei ystyried yn fater o gydwybod.

Eglwys yng Nghymru

O dan y ddeddfwriaeth gallai'r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr gael eu gwahardd rhag priodi cyplau o'r un rhyw oni bai fod cyfraith eglwysig yn cael ei newid.

Ond cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant Hugh Robertson bod y llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno gwelliant er mwyn caniatau'r Eglwys yng Nghymru i gynnal priodasau hoyw os ydyn nhw'n penderfynu eu bod nhw eisiau gwneud hynny.

Roedd Archesgob Cymru Dr Barry Morgan wedi codi cwestiynau ynglŷn â'r gwaharddiad gwreiddiol.