Â鶹ԼÅÄ

Cameron yn ceisio tawelu'r dyfroedd

  • Cyhoeddwyd
David Cameron
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Cameron wedi derbyn beirniadaeth gan ei blaid oherwydd Ewrop a'r mesur priodasau

Mae David Cameron wedi bod yn ceisio codi pontydd gydag aelodau'i blaid sy'n flin wedi honiadau fod cyd-gadeirydd y Ceidwadwyr wedi eu galw yn "swivel-eyed loons".

Honnir fod yr Arglwydd Feldman wedi gwneud hynny yng ngŵydd gohebwyr papur newydd wrth drafod Ewrop.

Mae'r Arglwydd Feldman yn gwadu iddo wneud hynny.

Mae Mr Cameron wedi e-bostio aelodau o'i blaid i ddweud na fyddai byth yn cyflogi rhywun a fyddai'n eu sarhau.

Ond mae aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr yn dweud bod y sylwadau, os yn wir, yn adlewyrchu'r bwlch cynyddol rhwng aelodau cyffredin y blaid a chylch dethol Mr Cameron.

Partneriaethau Sifil

Mae'r tensiynau rhwng Downing Street a charfan sylweddol o aelodau'r Ceidwadwyr ar lawr gwlad wedi dwysau gan y cynlluniau i ganiatáu i gyplau o'r un rhyw briodi.

Fe wnaeth nifer sylweddol o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr bleidleisio o blaid gwelliannau fyddai wedi peryglu'r mesur ddydd Llun.

Cwblhawyd ail ddarlleniad y mesur yn NhÅ·'r Cyffredin gyda chefnogaeth aelodau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd y mesur yn cael ei drydydd darlleniad yn NhÅ·'r Cyffredin yn ystod dydd Mawrth, ond does dim disgwyl cymaint o wrthwynebiad bryd hynny.

Mae gwrthwynebiad pellach yn bosib pan aiff y mesur i Dy'r Arglwyddi ddydd Mercher, ac os yw'r Arglwyddi yn newid y mesur bydd angen i'r newidiadau hynny gael eu cymeradwyo gan ASau.

Yn ei e-bost, dywedodd Mr Cameron na fyddai aelodau'r blaid yn cytuno ar bopeth, ac y byddai yna wastad "feirniadaeth o'r cyrion".

Ond fe'u hanogodd i ganolbwyntio ar yr hyn sydd ganddyn nhw'n gyffredin ac ar y darlun mawr gan ddweud ei fod yn "falch" o'r gwaith roedden nhw wedi ei wneud ac am eu "cyfeillgarwch dwfn a hirhoedlog" gydag e.

'Sbwriel'

Ddydd Sul, wrth drafod yr honiad am "swivel-eyed loons", gwadodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies fod yna hollt o fewn y blaid geidwadol, tra'n rhybuddio'r blaid i beidio anwybyddu'r safbwyntiau a goleddir ar lawr gwlad.

Roedd yn dweud y byddai ef ei hun yn perthyn i gategori y "swivel-eyed loon, fruitcake" oherwydd ei wrthwynebiad i briodas ar gyfer cyplau o'r un rhyw, a'i gefnogaeth i refferendwm ar Ewrop.

Dywedodd fod pobl a berthynai i'r categori hwnnw wedi bod yn iawn yn y gorffennol, er enghraifft yng nghyd-destun eu rhybuddion am yr Ewro.

Ond fe wrthododd David Davies unrhyw awgrym bod yna fwlch cynyddol rhwng arweinyddiaeth y Ceidwadwyr a chymdeithasau lleol gan ddisgrifio unrhyw awgrym fod yna ryfel rhyngddynt fel "sbwriel llwyr".