Tynnu sylw at anawsterau byddardod

Disgrifiad o'r llun, Mae tua 500,000 o bobl yng Nghymru yn fyddar neu'n ei chael hi'n anodd clywed.

Ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar, mae elusen yn annog pobl i geisio gwneud bywyd yn haws i deulu, ffrindiau neu gydweithwyr sydd wedi colli eu clyw.

Mae tua 500,000 o bobl yng Nghymru yn fyddar neu'n ei chael hi'n anodd clywed.

Yn ôl Action on Hearing Loss Cymru, fe ddylai pobl fod yn fwy ymwybodol o ba mor anodd yw hi i bobl sy'n methu clywed i gyfathrebu ag eraill a byw heb sŵn.

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i ddysgu rhywfaint o Arwyddiaith Brydeinig sylfaenol.

Yn ystod yr wythnos, bydd gwefan yr elusen yn cynnig heriau i ymwelwyr i geisio darllen gwefusau a dyfalu'r hyn sy'n cael ei ddweud mewn sgyrsiau pob dydd.

Y nod yw dangos i bobl pa mor anodd a dryslyd y gall hi fod i bobl sy'n fyddar.

Cynghorion

Dywedodd Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru, Richard Williams:

"Mae un o bob chwech o bobl â rhyw fath o nam ar eu clyw ac yn osgoi cymdeithasu neu'n cael trafferth yn y gwaith am nad ydynt yn gallu dilyn sgwrs wrth siarad â phobl sydd ddim yn ymwybodol o sut i gyfathrebu â phobl sy'n fyddar.

"Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar, rydym yn annog pawb i ddilyn cynghorion a helpu i gael gwared ar y rhwystrau sy'n atal pobl fyddar rhag ymuno mewn sgyrsiau hwyliog a phwysig o ddydd i ddydd."

Mae Action on Hearing Loss Cymru hefyd yn annog pawb i 'Gadw'n Ddistaw!' yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar trwy gynnal cyfnodau o dawelwch wedi'u noddi mewn ysgolion, colegau a swyddfeydd er mwyn codi arian angenrheidiol ar gyfer gwaith yr elusen.