Â鶹ԼÅÄ

Galw am 'welliannau' i swyddfeydd post

  • Cyhoeddwyd
Cwsmer mewn swyddfa bost
Disgrifiad o’r llun,

Mae goleuo a dolen glyw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rai cwsmeriaid mewn swyddfeydd post

Mae angen i swyddfeydd post ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gyda phroblemau golwg a chlyw eu defnyddio, yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru.

Roedd un o bob tri chwsmer gyda nam ar eu golwg a gymrodd ran yn yr ymchwil yn dweud bod 'na rwystrau a pheryglon wrth fynedfeydd adeiladau.

Ym mhedwar o bob pum achos, doedd 'na ddim dolen glyw ar gael i bobl gyda phroblemau clyw.

Dywedodd y Swyddfa Bost Cyf. fod yr adroddiad yn ddarn pwysig o ymchwil ac y byddan nhw'n ystyried y casgliadau yn fanwl.

Roedd cyfanswm o 78 o bobl gyda nam ar y synhwyrau wedi ymweld â 150 o swyddfeydd post, gam olygu 583 o ymweliadau i gyd.

Roedd dros draean o'r gwirfoddolwyr gydag elusen RNIB Cymru ac Action on Hearing Loss Cymru wedi darganfod fod cynllun rhai swyddfeydd post yn anaddas, gan olygu eu bod yn cael problemau i gael at y cownter.

Disgrifiad,

Adroddiad Alun Thomas

Proffesiynoldeb

Yn ôl yr adroddiad, doedd 'na ddim arwydd mewn bron i chwarter y swyddfeydd post yn dweud bod 'na ddolen glyw ar gael, ac mewn dau o bob tri o'r achosion hyn doedd staff ddim wedi ceisio datrys y broblem.

Ond, er gwaetha'r pryderon am ddiogelwch a gwasanaeth i gwsmeriaid, roedd naw o bob 10 a fu'n rhan o'r ymchwil yn canmol gweithwyr y swyddfa bost am eu proffesiynoldeb.

Dywedodd un wirfoddolwraig o Gaerdydd, Sara Johnson: "Roedd pobl yn gymwynasgar, ond doedd yr wybodaeth ddim ganddyn nhw.

"Roedd y cynllun a'r goleuo'n sâl, ond nid y staff.

"Roedden nhw'n gwneud pob ymdrech, ond doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud."

Roedd cwsmeriaid â phroblemau golwg wedi cael profiadau rhywfaint yn well mewn swyddfeydd post na phobl â nam ar eu clyw.

Mae'r adroddiad yn argymell fod perchnogion swyddfeydd post yn sicrhau bod yr adeilad wedi'i oleuo'n dda er mwyn helpu cwsmeriaid sydd â phroblemau golwg.

Mae hefyd yn galw am hyfforddi staff sut i adnabod a chyfathrebu'n effeithiol gyda chwsmeriaid sydd â nam ar y synhwyrau.

'Pryder mawr'

Yn ôl Ceri Jackson, cyfarwyddwr dros dro RNIB Cymru, mae'r Swyddfa Bost yn galon i'r gymuned.

"Mae'n galluogi pobl leol i gael mynediad i bob mathau o wasanaethau heb orfod teithio'n rhy bell o'u cartrefi: rhywbeth sy'n hynod werthfawr i'r nifer fawr o bobl ddall neu rannol ddall sy'n ei chael yn anodd teithio ar eu pennau eu hunain.

"Mae'n bryder mawr fod un ymhob tri o bobl yn dweud ei bod yn anodd mynd trwy'r drws hyd yn oed, oherwydd rhwystrau a pheryglon.

"Rwy'n gobeithio y bydd modd gweithio gyda nhw nawr i helpu i wneud y Swyddfa Bost yn rhywle diogel a chroesawus i bawb yn y gymuned."

Dywedodd Richard Williams, cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru: "Pan rydych chi'n ystyried fod un ymhob chwe pherson yng Nghymru â nam ar eu clyw, dyw'r swyddfeydd post hyn ddim yn darparu gwasanaethau gwbl hygyrch i'w cwsmeriaid - mae hyn nid yn unig yn wasanaeth gwael i gwsmeriaid ond hefyd yn ddrwg i'w busnes."

Roedd Tony Jones, rheolwr rhanbarthol y Swyddfa Bost yng Nghymru'n falch fod "y mwyafrif o gwsmeriaid" wedi canmol y modd y deliwyd gyda'u hanghenion.

"Dyma waith pwysig o ymchwil a bydd y Swyddfa Bost Cyf yn cymryd amser i ystyried y casgliadau'n llawn a phenderfynu sut y gallwn gydweithio er mwyn cynnig gwasanaeth gwell fyth i'n holl gwsmeriaid."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol