Â鶹ԼÅÄ

Symud llong o'r tywod

  • Cyhoeddwyd
Llong Airbus - llun gan Ray McGowanFfynhonnell y llun, Ray McGowan
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y llong yn sownd ar y tywod ar Ionawr 30

Mae'r awdurdodau wedi llwyddo i symud llong sydd wedi bod yn sownd ar y tywod ger porthladd Mostyn ers dros wythnos.

Mae'r Ciudad de Cadiz yn cael ei defnyddio i gludo adenydd o ffatri cwmni Airbus ym Mrychdyn i bencadlys y cwmni yn Toulouse, Ffrainc.

Ar ei ffordd i godi llwyth ar Ionawr 30, daeth y llong yn rhydd o'i hangor mewn gwyntoedd cryfion cyn mynd yn sownd ger y fynedfa i'r porthladd.

Mae sawl ymgais i'w symud ers hynny wedi bod yn aflwyddiannus.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Airbus:

"Mae'r llanw uchel yn ddiweddar wedi bod yn is na'r disgwyl, felly fe wnaed y penderfyniad i ohirio'r ymgais nesaf tan ddydd Sadwrn, Chwefror 9.

"Mae'r llong mewn safle cadarn a diogel ar dwyn tywod. Does dim llygredd morol, nid yw'r llong wedi ei difrodi o gwbl dim ond ei bod yn sownd ar y tywod.

"Rydym yn cadw golwg barhaus ar y sefyllfa, ond mae gwarchod yr amgylchedd yn flaenoriaeth uchel i Airbus ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl awdurdodau perthnasol i sicrhau bod y mater yma'n cael ei ddatrys cyn gynted â phosib."