Â鶹ԼÅÄ

Perchnogion tai haf yn 'osgoi trethi'

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llangrannog yng Ngheredigion
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceredigion, sy'n cynnwys pentref Llangrannog, yn nhabl yr ardaloedd mwyaf poblogaidd yn y DU i gael ail gartref

Mae nifer cynyddol o berchnogion tai haf yn rhai o ardaloedd Cymru yn osgoi talu treth cyngor drwy fanteisio ar ostyngiad mewn trethi busnes.

Yn ôl ymchwiliad gan raglen materion cyfoes Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, Manylu, mae dros deirgwaith yn fwy o bobl yng Ngwynedd yn flynyddol yn newid statws eu heiddo o fod yn ail gartref i fod yn fusnes rhentu tai gwyliau ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno gostyngiad dros dro i drethi busnesau bychan yn 2010.

Mae rhai o gynghorwyr y sir yn pryderu am effaith hyn ar y coffrau mewn cyfnod o doriadau llym.

'Poeni'n arw'

Mae Wyn Williams, cynghorydd Abersoch - pentref gyda nifer fawr o dai haf - wedi ysgrifennu at gynghorau eraill Cymru sydd â nifer uchel o dai haf, i'w rhybuddio.

Dywedodd: "Loophole ydi hyn, bod yna rhai - a dwi'n meddwl bod 300 yng Ngwynedd ar hyn o bryd - wedi troi eu tai haf yn dai busnes ac oherwydd bod nhw'n troi yn fusnes hwyrach bod nhw ddim ond yn gosod am bum neu chwe wythnos neu lai y flwyddyn.

"Maen nhw'n cael troi eu tai yn fusnes ac os yn fusnes bach maen nhw'n cael business rate relief, felly mewn ffordd tydyn nhw ond yn talu ychydig iawn o dreth fusnes ac os ydyn nhw'n cael business rate relief mae'n llai fyth wedyn a hwyrach yn ddim....a dwi'n meddwl bod hynny'n fy mhoeni i'n arw iawn."

Am y tro cyntaf eleni, fe wnaeth y Cyfrifiad gyhoeddi'r nifer o bobol gydag ail gartref ym Mhrydain.

Roedd mwy o bobol gydag ail gartref wedi ei leoli yng Ngwynedd nag unrhyw le arall ym Mhrydain ac roedd tair ardal arall o Gymru - Penfro, Ynys Môn, a Cheredigion - yn cael eu henwi yn nhabl y deg ardal fwya' poblogaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gofyn am yr hawl i godi mwy na 100% o dreth cyngor ar berchnogion ail gartrefi mewn mannau fel Beddgelert

Cymryd mantais

Mae'n rhaid i berchnogion ail gartrefi dalu treth cyngor llawn yng Ngwynedd - ac ers blynyddoedd mae'r awdurdod wedi bod yn gofyn am yr hawl i godi mwy na 100% o'r dreth lawn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno rheol ddwy flynedd yn ôl i geisio atal unrhyw un rhag cymryd mantais o'r sefyllfa dreth.

Rhaid i dai gwyliau gael eu gosod am 70 diwrnod y flwyddyn, a bod ar gael am o leia' 140 diwrnod y flwyddyn, cyn iddyn nhw gael eu hystyried yn fusnes.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n goruchwylio hyn - ac maen nhw'n dweud eu bod yn casglu gwybodaeth ddigonol i wneud yn siŵr bod pob eiddo yn cael ei asesu'n gywir ac maen nhw'n monitro yn rheolaidd.

Ond mae'r cynghorydd Wyn Williams yn galw ar y cynulliad i edrych yn fanwl ar y sefyllfa gan mai cynghorau sy'n colli allan yn y pen draw - ac yn galw ar fwy o fonitro i sicrhau nad oes neb yn manteisio.

Ychwanegodd: "'Da ni'n gwybod faint y boblogaeth sydd yn y cylch - ac os ydyn nhw'n gosod tÅ· allan yna mae mwy o boblogaeth ond does? Ond dydyn ni ddim yn gweld hynny."

Manylu, Radio Cymru am 2pm ddydd Mercher, ail-ddarllediad am 6:30pm, nos Sul, Rhagfyr 2.