Â鶹ԼÅÄ

Cyfrifiad: Gwynedd ar y brig o ran tai haf

  • Cyhoeddwyd
Tai haf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 18 o'r 20 awdurdod lleol lle oedd cyfran uchel o dai haf mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol.

Yng Ngwynedd mae'r gyfran uchaf o bobl yng Nghymru a Lloegr sydd wedi nodi ail gyfeiriad ar gyfer gwyliau, yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2011.

Ac mae Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro ymysg y 15 cyngor sir uchaf â phobl sydd ddim yn byw yno ond yn berchen ar dai haf.

Mae gwybodaeth Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ddydd Llun yn ymwneud â phobl sydd yn berchen ar ail gartref mewn awdurdod lleol sy'n wahanol i'r un maen nhw'n byw ynddo'n arferol.

Ardaloedd gwledig

Roedd 18 o'r 20 awdurdod lleol lle oedd cyfran uchel o dai haf mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol.

Yn ôl yr ystadegau, mae dros £1.5 miliwn yng Nghymru a Lloegr (2.8% o'r boblogaeth) yn berchen ar ail gyfeiriad sy'n cael ei ddefnyddio am fwy na 30 diwrnod bob blwyddyn.

Cafodd yr ail gyfeiriadau eu rhannu'n dair adran, gwaith, gwyliau ac arall.

Dywedodd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar dai a'r Gymraeg, nad oedd yr ystadegau yn rhai annisgwyl.

"Rydym yn ymwybodol iawn bod 'na ganran uchel o ail gartrefi yn y sir a rhai ardaloedd o fewn Gwynedd efo dros 50%," meddai.

"Mae'n fater yr ydan ni wedi ei daclo yn y blynyddoedd diwethaf....ond yn amlwg bydd angen gwneud mwy.

"Ochr arall y geiniog ydi ein bod yn cydnabod bod ymwelwyr yn dod i'r sir ac yn aros yma yn gyfraniad i'r economi leol ar adegau o'r flwyddyn."

Dywedodd bod modd gwneud rhai pethau o ran grymoedd sy'n bodoli, megis codi dros 100 y 100 ar dreth cyngor ail gartrefi.

"Creu ffynhonnell incwm i godi mwy o dai fforddiadwy a fydd gobeithio yn rhoi rhywfaint o gosb i bobl sy'n teimlo bod ail gartre yn rhywbeth y maen nhw'n haeddu ei gael, ni am godi mwy i gael yr hawl ac ail-fuddsoddi mewn tai fforddiadwy i ateb galw lleol."

Hwn yw'r tro cyntaf i ystadegau o'r fath gael eu cyhoeddi fel rhan o'r Cyfrifiad.

Cafodd Cyfrifiad 2011 ei gynnal ddydd Sul, Mawrth 27, 2011.

Hwn oedd y tro cyntaf i bobl allu cofnodi eu bod yn Gymry, hyd yn oed os oedden nhw'n byw mewn rhannau eraill o Brydain.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 5% (153,000) dros y 10 mlynedd diwethaf.

Y boblogaeth ar ddiwrnod y Cyfrifiad, oedd 3.06 miliwn. 2.91 miliwn oedd y ffigwr yn 2001.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol