Safle Pontcysyllte yn 'creu trafferthion'

  • Awdur, John Stevenson
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae dynodi Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth Byd yn 2009 wedi creu problemau cynllunio ynglŷn â gwahaniaethu rhwng y datblygiadau sydd yn dderbyniol a rhai sy'n annerbyniol o gwmpas o safle.

Erbyn hyn mae Cyngor Sir Ddinbych wedi paratoi canllawiau cynllunio newydd i geisio sicrhau nad yw effaith unrhyw ddatblygiad yn amharu ar y safle ac yn gweddu i gyd-destun daearyddol y draphont.

Mae'r canllawiau'n dilyn ymgynghoriad gyda'r cyhoedd.

Ymchwiliad

Cafodd y draphont ei dynodi yn Safle Treftadaeth Byd yn 2009. Ddydd Mawrth fe fydd y cyngor sir yn ystyried y canllawiau newydd ac mae adroddiad swyddogion yn pwysleisio fod absenoldeb eglurdeb wedi achosi trafferthion cynllunio.

Mae'r holl waith yn cyd-fynd ag ymchwiliad Llywodraeth Cymru i bolisïau yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol.

Eisoes mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gweld llythyr sy'n dystiolaeth i'r ymchwiliad gan Susan Denyer, Ysgrifennydd ICOMOS, y corff sy'n monitro Safleoedd Treftadaeth Byd.

Mae Ms Denyer o'r farn fod diffyg mesurau statudol i warchod safleoedd Treftadaeth Byd ym Mhrydain yn "wendid".