Â鶹ԼÅÄ

Camlesi ac afonydd Cymru o dan ofal elusen newydd

  • Cyhoeddwyd
Traphont ddŵr PoncysyllteFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Traphont Pontcysyllte yn cael ei goleuo pob nos fel rhan o'r digwyddiadau

Corff newydd elusennol sy'n gyfrifol am afonydd a chamlesi Cymru.

Mae yna dros 116 cilometr (72 milltir) o gamlesi yng Nghymru.

Cafodd ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru ei ffurfio ar ôl i Ddyfrffyrdd Prydain gael ei ddiddymu ddechrau mis Gorffennaf.

Mae'n rhan o gorff ehangach, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd - sy'n gyfrifol am y 2,000 milltir o ddyfrffyrdd yng Nghymru a Lloegr.

Daeth y newid wedi i Ddyfrffyrdd Prydain, oedd yn gorff gwladol, fynd i drafferthion.

Roedden nhw'n dibynnu'n helaeth ar arian gan y llywodraeth ac yn derbyn ychydig iawn o grantiau elusennol.

O'r herwydd, roedd gan Dyfrffyrdd Prydain ddyledion o £30m erbyn 2009.

Cymunedau

Dyma'r tro cynta' yn y DU i gorff gwladol drosglwyddo i'r sector elusennol, a bydd yr Ymddiriedolaeth yn un o'r elusennau mwya' yn y wlad.

Y nod, yn ôl yr Ymddiriedolaeth, yw ei gwneud yn haws i ddenu nawdd ar gyfer y dyfrffyrdd, a sicrhau bod cymunedau yn cael chwarae mwy o rôl.

Mae disgwyl i'r dyfrffyrdd mewndirol, sydd o dan ofal Asiantaeth yr Amgylchedd, drosglwyddo i ofal yr Ymddiriedolaeth erbyn 2015.

Mae dyfrffyrdd Yr Alban, ar y llaw arall, yn parhau o dan ofal y wladwriaeth am y tro.

Bydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn derbyn grantiau penodol gan Adran Amaeth San Steffan, Defra, dros y 15 mlynedd nesa'.

Byddan nhw hefyd yn codi tâl am drwyddedau i bobl ddefnyddio'r dyfrffyrdd.

Yn y cyfamser, mae'r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau tri o bartneriaid corfforaethol i gefnogi'r elusen - Google, Ymddiriedolaeth Côd Post y Bobl a Banc y Co-Operative.

Dywedodd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Tony Hales, eu bod wrth eu bodd o gael cefnogaeth wrth gychwyn y gwaith.

"Dyma arwydd amlwg o hyder ynom ac yn gydnabyddiaeth o'r rôl bwysig y byddwn ni'n chwarae fel gwarchodwyr un o drysorau amgylcheddol ein cenedl."

Pontcysyllte

Mae lansiad yr Ymddiriedolaeth yn cael ei nodi gyda digwyddiadau ar hyd a lled y wlad ddydd Iau, gan gynnwys noson arbennig ger Traphont Pontcysyllte, Llangollen.

Bydd y draphont yn cael ei goleuo rhwng 9-11pm, a bydd cyngerdd yn cael ei gynnal o dan y bont gyda pherfformiadau gan fandiau a chorau lleol.

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn lansio eu hapêl gynta' erioed - 50 o gynlluniau ar draws y wlad i roi "bywyd newydd i lwybrau tynnu a glannau afonydd, gyda phob ceiniog yn cael ei wario'n uniongyrchol ar gynnal, adnewyddu a gwella camlesi ac afonydd".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol