Gwrthwynebwyr twneli newydd i Frynglas ar yr M4 yn cyfarfod

Disgrifiad o'r llun, Mae tagfeydd wedi damawin ger y twneli wedi arwain at alwadau i liniaru'r problemau

Mae gwrthwynebwyr cynlluniau ar gyfer twneli newydd ar gyfer rhan nodweddiadol o ddrwg o'r M4 yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghasnewydd.

Gall hyd at 300 o gartrefi a busnesau gael eu heffeithio gan dwneli newydd a all gael eu codi ym Mrynglas ar gost o £550 miliwn.

Mae'r syniad yn un o bedwar opsiwn sydd wedi eu cyflwyno i geisio lleihau tagfeydd neu orfod cau'r draffordd wedi damwain ddifrifol.

Fe fydd yr ymgyrch yn erbyn y twneli, (Caat) yn cyfarfod yng Nghanolfan Christchurch, Hen Ffordd Malpas am 5pm.

Daw'r cyfarfod i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar opsiynau i leihau llif traffig ar y draffordd o amgylch Casnewydd ddod i ben yr wythnos yma.

Ymhlith syniadau eraill y mae creu ffordd ddeuol newydd i'r de o Gasnewydd a gwella cyffordd ar ffordd yr A48.

Twnel dwy lôn

Mae cyfres o arddangosfeydd wedi cael eu cynnal yn y ddinas ers dechrau'r ymgynghoriad ym mis Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab

Disgrifiad o'r llun, Wedi damwain ger y twneli mae'r tagfeydd yn sylweddol iawn ger Brynglas

Cafodd Caat ei sefydlu gan drigolion a busnesau sy'n gwrthwynebu'r cynigion i dyllu dau dwnnel newydd ym Mrynglas, lle mae'r draffordd yn mynd i lawr i ddwy lôn.

Cafodd y twnnel gwreiddiol ei adeiladu ar ddechrau'r 1960au.

Y syniad yw y byddai'r twneli newydd yn lledu'r draffordd i fod yn bedair lôn i'r dwyrain a'r gorllewin rhwng cyffordd 24 a 29 dros y 15 mlynedd nesaf.

Er mwyn i'r cynllun fynd yn ei flaen, mae'n bosib y bydd rhaid dymchwel gorsaf dân, gwesty a chartrefi.

Mewn datganiad ym mis Mai dywedodd Caat y byddai'n rhaid i tua 150 o gartrefi gael eu dymchwel ar gyfer y cynllun gan "ddifetha bywydau pobl am flynyddoedd gan ddod ag ychydig os o gwbl o ystwythder i'r M4".

"Y materion sylfaenol y mae Caat yn ei wrthwynebu ydi effaith y cynlluniau ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt, cartrefi a chymunedau.

"Mae Caat yn credu y bydd rhaid i ffyrdd sy'n uno a'r draffordd gau o dan y cynlluniau ac fe fydd hyn yn cynyddu tagfeydd yn y ddinas a fydd 'na ddim budd i Gasnewydd o'r cynllun."

Morgais

Dywed rhai o'r trigolion sy'n byw ger y draffordd fod ganddyn nhw gwestiynau o hyd petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.

"Fe fydd yn anodd symud," meddai Lynda Pitman sy'n byw ar Heol Malpas.

"Bydd rhaid cael morgais ac yn fy 60au dwi ddim yn gwybod a fyddaf yn gallu cael morgais.

"Ond efallai y byddai'n well na'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wynebu erbyn hyn.

"Mae sain y ffordd yn y nos yn gwaethygu ac yn anghredadwy pan mae gwaith yn cael ei wneud ar y draffordd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i geisio datrys problemau traffic ar goridor yr M4 yn ne ddwyrain Cymru.

"Mae'n gofyn am farn ar broblemau sy'n gysylltiedig â thraffig, mesurau traffig cyhoeddus a'r pedwar opsiwn."

Fe ddaw'r ymgynghoriad i ben ar Orffennaf 6 ac mae disgwyl i Weinidog Llywodraeth Leol Cymru Carl Sargeant wneud penderfyniad cyn diwedd y flwyddyn.