Â鶹ԼÅÄ

Cynlluniau ar gyfer twnelau newydd a lledu'r M4

  • Cyhoeddwyd
Traffig ger twneli Brynglas ar yr M4Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddi cynlluniau i leihau tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd

Delio gyda thraffig ar un o ffyrdd prysuraf de Cymru yw pwrpas cynlluniau newydd ar gyfer traffordd yr M4 sy'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

O dan ystyriaeth mae adeiladu twnelau newydd ym Mrynglas, gan olygu y bydd pedair lôn i'r ddau gyfeiriad yn ardal Casnewydd.

Opsiwn arall yw adeiladu ffordd ddeuol newydd i'r de o'r ddinas fel modd o leddfu traffig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ymateb ar yr ymgynghoriad, sy'n canolbwyntio ar ddarn 13 milltir o'r draffordd.

Daw hyn wedi penderfyniad yn 2009 i i'r M4.

Fel rhan o'r hyn sy'n cael ei awgrymu y mae codi dau dwnnel newydd ym Mrynglas, lle mae'r draffordd ar hyn o bryd yn ddwy lôn i bob cyfeiriad.

O ganlyniad i'r twnelau newydd fe fydd y draffordd yn cael ei lledu, gyda phedair lôn i bob cyfeiriad am naw milltir rhwng cyffordd 24 (Coldra) a chyffordd 29 (Cas-bach).

Byddai'r gwaith dros 15 mlynedd yn costio £550m.

Tân mewn twnnel

Arbenigwyr sydd wedi llunio'r cynlluniau, sy'n cynnwys y peirianwyr sifil Arup.

Mae arweinwyr busnes wedi rhybuddio bod tagfeydd yn yr ardal yn cael effaith negyddol ar economi de Cymru.

Mae 'na sawl achos diweddar wedi bod o orfod cau'r draffordd a thagfeydd sylweddol o ganlyniad i ddamweiniau.

Ac yn ystod haf 2011 fe fu'n rhaid cau'r twnnel wedi i yno.

Fe wnaeth y llywodraeth flaenorol wrthod cynlluniau i greu ffordd liniaru o amgylch Casnewydd am ei fod yn rhy ddrud.

Mae cynlluniau eraill yn cael eu hystyried erbyn hyn.

Un syniad arall yw adeilad ffordd ddeuol newydd i'r de o Gasnewydd.

Yn wahanol i'r ffordd liniaru, fyddai hon ddim yn draffordd ac yn cael ei hadeiladu mewn rhannau gan fod yn ddibynnol ar y galw.

Mae 'na opsiwn hefyd i wella'r gyffordd ar yr A48.

Yn wreiddiol, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mai'r unig ffordd i'r cynllun ddigwydd oedd petai ei lywodraeth yn cael yr hawl i fenthyca arian, ond dywedodd swyddogion yn ddiweddar ei fod wedi amddeall cwestiwn yn ystod cyfweliad gyda'r Â鶹ԼÅÄ.

'Blaenoriaeth'

Cychwynnodd y gwaith ym mis Chwefror ar addasu hen ffordd drwy safle hen waith dur Llanwern i fod yn ffordd ddeuol a fydd yn cysylltu'r draffordd gyda Chasnewydd i'r de o'r ddinas.

"Rydym i gyd yn ymwybodol o'r problemau tagfeydd ar y rhan yma o'r M4," meddai'r Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant.

"Mae lleihau'r tagfeydd rhwng Magwyr a Chas-bach yn un o flaenoriaethau'r llywodraeth ac yn addewid a nodwyd yn y Cynulliad Trafnidiaeth Cenedlaethol.

"Mae gwella mynediad i ysgolion, ysbytai a llefydd gwaith yn allweddol er mwyn gwella effeithiolrwydd a chynnyrch er mwyn bod yn gystadleuol."

Fe fydd teithwyr a thrigolion lleol yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y cynlluniau diweddara mewn cyfres o weithdai ac arddangosfeydd tan Fehefin 6.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol