Â鶹ԼÅÄ

Nia Williams - eisiau cerdyn oddi wrthych chi

Cofio'r Urdd

Sain Ffagan yn chwilio am hen greiriau ac atgofion Urddasol

Hen drôns Mr Urdd, hen luniau o Langrannog, atgofion o gyfarfod eich Gog neu Hwntw cyntaf dros fwrdd brecwast yng Nglan-llyn.

Mae amgueddfa Sain Ffagan yn chwilio am bob math o greiriau ac atgofion yn ymwneud â'r Urdd i'w dangos mewn arddangosfa i gyd-fynd ag ymweliad Eisteddfod Genedlaethol y mudiad â'r Brifddinas y flwyddyn nesaf.

Ac ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon mae'r Amgueddfa yn rhannu cardiau post lle gall pobl nodi pa greiriau diddorol sydd ganddyn nhw yn amrywio o grysau T i hen luniau.

Yn barod mae gan yr amgueddfa hen welyau bync o Langrannog yn ôl Nia Williams, Cydlynydd Addysg Sain Ffagan.

"Yr hyn fydd yn cael ei gasglu fydd sail yr arddangosfa yn Sain Ffagan," meddai.

Ychwanegodd fod trefnu'r arddangosfa yn arwydd o ddiddordeb yr amgueddfa mewn agweddau mwy diweddar o hanes Cymru.

"Bydd yn edrych ar ddylanwad yr Urdd ar Gymry dros y degawdau diwethaf gan ysgogi atgofion ar draws y cenedlaethau," meddai.

"Do, bu Huw Edwards, Bryn Terfel a Glyn Wise yn aelodau o'r Urdd ac fe fydd hwn yn gyfle i bawb yng Nghymru a thu hwnt fynegi eu teimladau a rhannu eu hatgofion am yr Urdd," ychwanegodd.

Wedi derbyn yr wybodaeth gan unigolion ar y cardiau post bydd yr amgueddfa yn cysylltu â hwy wedyn i drefnu eu harddangos.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.