Â鶹ԼÅÄ

Cai a Shauna - a'r dyn mewn cadwynau

Y sinema leiaf erioed ar y Maes

'Mae ffrind gyda HIV yn dal yn ffrind'

Ym mhabell Cymrorth Cristnogol eleni mae'r sinema leiaf a welwyd erioed ar faes eisteddfod erioed.

Ynddi mae'r mudiad yn dangos ffilmiau byrion o daith ddiweddar i Sierra Leone gan grŵp ymwybyddiaeth HIV o Fangor, 'Y Ffynnon'.

Mae'n rhan o ymgyrch i dorri'r tawelwch sydd yna, hyd yn oed yng ngwledydd Prydain, ynglÅ·n a HIV ac AIDS.

Flwyddyn un ôl yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin yr oedd aelodau'r Ffynnon, Shauna, Cai, Meredyth a Catherine, yn casglu enwau ar ddeiseb i'w chyflwyno i 10 Downing Street yn galw am fwy o addysg a a chwalu'r anwybodaeth ymhlith pobl ynglŷn ag AIDS.

Ddiwedd y flwyddyn yr ymwelodd aelodau'r Ffynnon, sy'n ymweld ag ysgolion a chymdeithasau i drafod y pwnc, â Sierra Leone a gweld y gwaith sy'n cael ei wneud yno.

"Gyda dim ond 30% yn gallu darllen a sgrifennu mae lledaenu'r neges yno gymaint anos," meddai Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol a rhaid meddwl am ffurfiau eraill fel chwaraeon, dawns, canu, drama ac yn y blaen.

"Ac mae'n partneriaid yno yn defnyddio cytiau fideo hefyd i ddangos ffilmiau perthnasol a dyna'r syniad y tu ôl i'r 'sinema' sydd gennym ni yn ein pabell ar faes yr Eisteddfod," meddai.

Yno gall rhyw hanner dwsin ar y tro wylio ffilmiau yn amrywio mewn hyd o bedwar munud i hanner awr.

"Un neges oedd yn cael ei lledaenu yn Sierra Leone oedd, Mae ffrind gyda HIV yn dal yn ffrind ac mae'r neges honno i'w gweld yn y babell hefyd.

Sinema fach y maes!

Yn ogystal â model o ddyn mewn cadwyni i gyfleu pa mor gaethiwus y gall anwybodaeth ynglŷn â HIV fod.

"Nid yn unig mae pobl yn cael eu caethiwo gan ofn dod allan yn gyhoeddus ond maen nhw hefyd yn cael eu caethiwo gan y stigma sy'n bodoli oherwydd rhagfarn sy'n codi o anwybodaeth," meddai Branwen Niclas.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.