|
|
Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage Cymru'r Byd | |||||||||||
Β» | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Μύ |
StraeonLlywydd dydd SadwrnAled Huw - newyddiadurwr gyda'r Βι¶ΉΤΌΕΔ
Gohebydd i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yng Nghaerdydd ac yn canolbwyntio ar faterion Prydeinig a Rhyngwladol yw Aled Huw.
Mynychodd Ysgol y Dderwen, Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, a Choleg Wadham, Prifysgol Rhydychen lle'r enillodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Cemeg. Yn dilyn cyfnod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn Llundain bu'n ohebydd a chyflwynydd i Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru. Bu am saith mlynedd yn gweithio i Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru yn Llundain yn ohebydd Prydeinig a Rhyngwladol. Yr uchafbwynt iddo gyda'r Βι¶ΉΤΌΕΔ hyd yn hyn fu tair ras arlywyddol yn yr America a chael teithio i Affrica, y Dwyrain Canol y Dwyrain Pell, America ac Ewrop. Bu Aled yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn unigol a chyda'r ysgol a'r adran. "Yr uchafbwyntiau oedd cyrraedd llwyfan y Genedlaethol gyda chaneuon actol Ysgol Bro Myrddin, partΓ―on cyd adrodd a chyflwyniadau llafar," meddai. "Daeth Prifwyl yr Urdd i Gaerfyrddin nΓ΄l yn 1935 - seithfed gΕµyl genedlaethol y Mudiad. Cafwyd eisteddfod lwyddiannus bryd hynny, gyda miloedd yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerfyrddin. "Llywydd y dydd - ar ddydd Sadwrn ola'r brifwyl honno - oedd neb llai nag Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd. "Eleni, felly, mae'n anrhydedd ddeublyg i mi gael bod yn Llywydd y dydd - a chael dilyn yn Γ΄l troed un a wnaeth gymaint dros y Gymraeg a Chymru," meddai. "Ac erbyn hyn mae na wefr ychwanegol o weld fy mhlant yn cystadlu gyda'r Urdd - mae fy merch wyth oed, Lois, yn cystadlu gyda chΓ΄r a pharti deulais Ysgol Iolo Morgannwg," ychwanegodd. Cysylltiadau
Dyw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Μύ |