Gwyn Fôn, Dafydd Chilton a Gareth Rees Williams o Glwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy oedd y tri heini a gychwynnodd yn fore - 7.30am - o Fae Colwyn. Fe wnaethon nhw feicio o amgylch ffiniau sir Conwy - tuag at y Rhyl i'r dwyrain, at Ddinbych, lawr i Gerrigydrudion, yna draw at rannau gorllewinol y sir, i fyny at Landygai cyn cyrraedd nôl ym Mae Colwyn i ganol miri Diwrnod Agored y Â鶹ԼÅÄ yng nghanolfan hamdden Parc Eirias brynhawn Sul, Ebrill 22.
Fe fuon nhw'n beicio am 6 awr a 27 munud a theithio 96 milltir i gyd - a doedd dim golwg wedi blino arnyn nhw ar ôl cyrraedd Parc Eirias Yn ôl y tri - paned o de oedd y prif beth oedd ar eu meddwl!
Cafodd Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy ei sefydlu yn ystod gŵyl Llanast Llanrwst, fis Tachwedd 2006; un o'r rhesymau dros ei sefydlu oedd am fod cyn lleied o bobl sy'n siarad Cymraeg yn ymwneud â'r maes awyr agored yn y gogledd orllewin, er bod y math yma o weithgaredd hamdden mor boblogaidd yma. Mae mwyafrif helaeth y clwb yn siaradwyr Cymraeg meddai Dafydd Chilton ac roedden nhw am wneud rhywbeth i nodi dyfodiad Eisteddfod yr Urdd i'r ardal yn 2008: "Mae'n achlysur arbennig ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i'w nodi ac hefyd eisiau dangos mai dim jyst corau a dawnsio gwerin sydd gan yr Urdd i'w gynnig - mae bod yn Gymro yn golygu gwneud pethau fel hyn hefyd," meddai. Y diwrnod cynt, dydd Sadwrn 21 Ebrill, roedd y clwb yn arwain taith feicio deuluol o amgylch Llyn Alwen fel rhan o wythnos o weithgareddau lleol i nodi Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008. Mae mwy o wybodaeth am y clwb beicio ar gael mewn stori ym mhapur bro Yr Odyn, fan hyn: Clwb beicio newydd Mae wythnos lawn o weithgareddau wedi ei threfnu i dynnu sylw at Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008 fel rhan o'r Ŵyl Gyhoeddi rhwng 23 a 28 Ebrill 2007. Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Fferm Gloddaeth Isaf, Bae Penrhyn ar gyrion tref Llandudno rhwng 26 a 31 Mai 2008.
Bydd wythnos yr Å´yl Gyhoeddi yn gorffen gyda gorymdaith fawr trwy ganol tref Llandudno ddydd Sadwrn 28 Ebrill gan ddechrau o North Western Gardens am 11.30am ac yn cyrraedd y prom am 12.45pm lle bydd jambori yn digwydd.
O'r prom bydd pawb yn cerdded yn ôl i North Western Gardens i orffen yr orymdaith erbyn 14.45pm.
|