Βι¶ΉΤΌΕΔ

Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage
Cymru'r Byd

Β»
Βι¶ΉΤΌΕΔ Vocab
OFF / I FFWRDD
Β» Turn ON
Troi YMLAEN
Β» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Μύ

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Μύ

Straeon

Ray Gravell

Ray a'r gynulleidfa
dan deimlad

Ymddangosiad cyhoeddus cyntaf Ray Gravell ers colli ei goes

Yr oedd y gynulleidfa ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar ei thraed yn cymeradwyo pan ymddangosodd Ray Gravell yn gwbl annisgwyl ar y llwyfan heno.

Mewn awyrgylch llawn emosiwn, hwn oedd ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers iddo gael triniaeth feddygol a cholli ei goes.

Yn dilyn ei eiriau agoriadol;
"Foneddigion, boneddigesau, fechgyn a merched - yr ieuenctid. Wrth gwrs yr ieuenctid yw dyfodol ein cenedl ni,"
yr oedd dan gymaint o deimlad, bu'n rhaid iddo oedi am rai eiliadau cyn gallu parhau ΓΆ'i anerchiad.

Ray "Esgusodwch fi am funud, am eiliad neu ddwy," meddai cyn mynd ymlaen a dweud:

"Doeddwn i ddim yn disgwyl y fath groeso - derbyniad.
"Dydw i ddim yn haeddu hyn ond diolch.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn dros y misoedd diwethaf a dyma fy ymddangosiad cyhoeddus swyddogol cyntaf i ers gadael Ysbyty Glangwili ar Γ΄l derbyn triniaeth a gofal arbennig gan y staff yno.

"Ga i ddiolch iddyn nhw am y gofal. Diolch yn fawr iawn," meddai.

Cyflwyno gwobr
Yr oedd ar y llwyfan er mwyn cyflwyno tlws Gwobr Talent Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru i Sion Ifan, prif fachgen Ysgol Bro Myrddin, sydd yn fab i'r actor Emyr Wyn.

Ond ni wyddai'r gynulleidfa mai'r cyflwynydd radio a chyn chwaraewr rygbi a fyddai'n cyflwyno'r tlws hwnnw nes iddo ymdangos ar y llwyfan.

Yr oedd yr achlysur gyda'r mwyaf emosiynol erioed yn hanes yr Eisteddfod gyda'r gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo a chroesawu.

Dywedodd Ray Gravell iddo benderfynu peidio ΓΆ gwisgo crys Sgarlets Llanelli ar gyfer yr achlysur oherwydd iddo weld cymaint o'r rheini ar y llwyfan yn ystod yr wythnos.

Gyda Mari, Lowri a Zoe o Aelwyd yr Ynys Gwisgodd yn hytrach ei dei Owain Glyndwr.

Datgelodd hefyd mai dim ond unwaith o'r blaen y bu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd - yn 1989 pan gafodd ei berswadio gan "yr annwyl Norah Isaac" i ymuno ΓΆ pharti plant.

Ond doedd hwnnw ddim yn achlysur cwbl lwyddiannus iddo, meddai, gan iddo ganu allan o diwn!

.


About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Μύ