Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Aled Sion gyda Sian Eirian -  cyfarwyddwr presennol yr Eisteddfod

Aled Sion

Pwy ydi'r cyfarwyddwr newydd?

Brodor o Nantgaredig yw Aled Sion, 42 oed, Cyfarwyddwr newydd Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Elisabeth I yng Nghaerfyrddin cyn bod yn un o'r criw cyntaf i fynd i'r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Myrddin.

Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, treuliodd ddwy flynedd yn athro yn Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Morgan Llwyd.

Yn 1988 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, gan ei ddyrchafu'n Bennaeth yno yn 1993.

Wedi chwe blynedd yn arwain Glan-llyn fe'i penodwyd yn 1999 yn drefnydd y de yr Eisteddfod Genedlaethol ond dychwelodd i Lan-llyn yn gyfarwyddwr yn 2004.

Mae'n yn byw gyda'i deulu yn Llanuwchllyn ac ymysg ei ddiddordebau mae cerddoriaeth, ynghyd â cherdded a beicio.

Yn gyn-aelod o'r grŵp Eryr Wen, mae o bellach yn canu efo Côr Mawr Llanuwchllyn a gyda Thrigogahwntw (Aled ydi'r hwntw!).

Ar fin cychwyn yn ei swydd newydd dywedodd:
"Dwi'n edrych ymlaen i barhau â'r gwaith da sy'n cael ei wneud gan Eisteddfod yr Urdd. Dwi'n gobeithio parhau i sicrhau bod bwrlwm ar y maes a gwneud yn siŵr bod profiadau'r Eisteddfod yn rhai cyffrous i bawb."

  • Sut ddyfodol?


  • About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý