Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Dwayne Peel

Llywydd dydd Mercher

Dwayne Peel - yn cofio dawnsio gwerin

Dwayne Peel - y dawnsiwr gwerin! - fydd llywydd dydd Mercher yn yr Eisteddfod.

Er mai'n chwaraewr rygbi y death i fri y mae Dwayne yn cofio cymryd rhan mewn camp go wahanol ar lwyfan yr Urdd:

"Un o'r pethau sy'n aros yn fy nghof yw cystadlu yn y gystadleuaeth dawnsio gwerin yn Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun! Roeddwn i'n mwynhau cystadlu, gwneud chwaraeon a mynd i wersylloedd yr Urdd," meddai.

NId hwn fydd y tro cyntaf iddo fod yn un o lywyddion Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yr oedd yn un o lywyddion Eisteddfod Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd hefyd.

Ganwyd a magwyd mewnwr Sgarlets Llanelli yng Nghaerfyrddin. Aeth i Ysgol Gynradd y Tymbl, ac Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa cyn graddio mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Dechreuodd chwarae rygbi yn wyth oed - i dîm rygbi'r Tymbl gan ymuno wedyn â thîm ieuenctid Llanelli.

Cwblhaodd dri thymor gyda chlwb Parc y Strade, a bellach mae'n chwarae i Sgarlets Llanelli.

Yn ystod ei yrfa mae wedi sgorio ceisiau i dimau Cymru o dan 16, dan 18 a than 19. Chwaraeodd ddwywaith i Gymru dan 21 oed ac ymunodd â'r tîm cenedlaethol yn 2001.

Cafodd Dwyane dymor gwych yn fewnwr tîm Camp Lawn 2005 a'i ddewis yn chwaraewr gorau'r gêm rhwng Cymru a'r Alban.

Yn 2005 hefyd aeth ar daith y Llewod i Seland Newydd gan chwarae yn y tair gêm brawf. "Mae rygbi wedi bod yn bwysig iawn i fi erioed. Yr uchafbwynt oedd ennill y Gamp Lawn yn 2005. Yr oedd hwnnw'n dymor gwych! Yr wyf wedi bod yn lwcus iawn i gael bod yn rhan o dîm Cymru, a chael chwarae gyda thîm y Llewod," meddai.

Mae hefyd yn mwynhau chwarae golff ac ymhlith ei ddiddordebau eraill mae mynd i'r sinema a chwarae criced.

Ei hoff dimau pêl-droed yw Lerpwl a Dinas Abertawe.

"Mae hi'n anrhydedd cael bod yn Llywydd y dydd yn yr Eisteddfod, yn enwedig gan ei bod hi yma yn Shir Gâr. Cefais lawer o hwyl fel aelod o'r Urdd, ac mae'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn manteisio ar y cyfleoedd gwych y mae'r Urdd yn eu cynnig," meddai.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý