Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Manon Wyn Williams

Medal am dagu a gwenwyno

Gweinidog a'i howsgipar beryg

Comedi ddu am wraig ganol oed yn tagu gwraig y gweinidog ac wedyn yn gwenwyno'r gweinidog ei hun a enillodd y Fedal Ddrama i Manon Wyn Williams yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Syrthio mewn cariad
Er mai monolog yw Câr dy Gymydog dywedodd Manon bod nifer o gymeriadau yn y ddrama ond y rheini'n cael eu chwarae gan y wraig sy'n syrthio mewn cariad â gweinidog y mae'n gofalu am ei dŷ.

Mae pethau'n mynd mor ddrwg mae'n tagu gwraig glaf y gweinidog a phan yw'r gweinidog yn ymwrthod â hi mae'n ei wenwyno yntau.

Heledd Sion yn holi Manon Wyn Williams  ar gyfer Radio Cymru Yn actores ei hun, wedi bod yn actio gyda Theatr Ieuenctid Môn a Theatr Fach Llangefni - dywedodd Manon, 20 oed, sy'n dod o Rosmeirch, Ynys Môn, iddi greu'r cymeriad mewn ffordd y byddai hi yn hoffi ei hactio - gydag amrywiaeth o acenion.

Ond dywedodd mai Olwen Rees oedd ganddi hi mewn golwg ar gyfer y rhan - ond ei bod wedi phlesio hefyd gyda dehongliad Iola Gregory fel rhan o'r seremoni'r Fedal Ddrama ar lwyfan yr Urdd.

"Yr oedd yn ddehongliad gwahanol i beth oeddwn i wedi ei feddwl ac yr oeddwn i'n falch ohono," meddai.

Yn ysgogiad
Ychwanegodd ei bod yn hynod falch o feirniadaeth Siwan Jones, awdur Con Passionate ar ei gwaith.

"Mae cael eich canmol yn golygu lot ac yn ysgogiad i sgrifennu eto ac yn rhoi syniad o sicrwydd ichi," meddai.

Mae hwn yn gyfnod hynod o lwyddiannus i Manon a hithau wedi ennill medal ddrama a dwy wobr arall yn Eisteddfod Môn bythefnos yn ôl - Tlws yr Ifanc a'r Fedal Ryddiaith.

Manon Wyn Williams A dydd Sadwrn mae'n gobeithio cipio prif wobr arall ar lwyfan yr Urdd - yn aelod o Aelwyd yr Ynys mewn cystadleuaeth chwarter awr o adloniant.

Ond o ran sgrifennu dywedodd nad oes ganddi syniad beth ddaw nesaf.

i ddarllen y stori newyddion



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý