Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Caryl parry Jones

Caryl a'r barddoni

Cantores yn fardd plant cenedlaethol

Bydd Bardd Plant newydd Cymru yn ymweld ag ysgolion arbennig i gynnal gweithdai yn ystod y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Caryl Parry Jones fod ganddi fab awtistig ei hun a'i bod yn ymwybodol o ofynion y plant hynny.

"Fydda i ddim yn eu diystyru nhw," meddai yn dilyn y cyhoeddiad oddi ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ddoe mai hi fydd yn olynu Gwyneth Glyn yn fardd plant cenedlaethol Cymru.

Hi yw'r wythfed i ddal y swydd ond i lawer bydd yn fwy adnabyddus fel cantores nag fel bardd - er iddi yn y gorffennol gyfansoddi geiriau i lawer o'i chaneuon ei hun.

"Ers yn blentyn mae gen i hoffter o iaith a beth fedrwch chi wneud gyda geiriau," meddai gan ychwanegu mai rhan o'i gwaith fydd trosglwyddo yr hwyl o drin geiriau i blant a'u cael i fynegi eu teimladau.

Caryl gyda'i merch ieuengaf, Greta Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at y gwaith.

"Yr oeddwn i'n gwbl 'chuffed' pan gefais i'r cynnig. Mi gefais i fy ngwahodd am goffi gyda Carys Wheelan o S4C a doedd gen i ddim syniad beth oedd ganddi hi mewn golwg. Roeddwn i wrth fy modd gan fod hon yn swydd unigryw a'r llinach yn un anrhydeddus iawn - tan rŵan!" meddai.

Dywedodd fod ganddi hi hoffter personol o bob math o farddoniaeth o gerddi caeth beirdd fel Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones a Myrddin ap Dafydd sydd wedi dal y swydd o'i blaen i gerddi Spike Milligan.

"Rydw i'n mwynhau cerddi y gallwch eu mwynhau ar fwy nag un lefel sy'n gwneud ichi feddwl yn ddyfnach os ydych eisiau," meddai.

Er yn byw yn y Bont-faen yn awr un o Ffynnongroyw ger Prestatyn yw Caryl Parry Jones ac wedi ennill ei phlwyf yn canu ac yn actio.

Mynychodd Caryl Ysgol Mornant, Ffynnongroyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn y Gymraeg.

Mae hi wedi canu a pherfformio gyda sawl band dros y blynyddoedd, gan gychwyn yn yr ysgol gyda Sidan, yna Injaroc, Bando, a Caryl a'r Band.

Mae hi bellach yn canu gyda'i band a chyda'r grŵp harmoni clos, Harmony Central.

Dywedodd mai un uchelgais ganddi fydd cael cantorion adnabyddus i ganu gwaith a gyfansoddwyd dan y cynllun gan blant.

Yn ogystal â sgwennu caneuon, mae'n awdur sawl ffilm i blant gan gynnwys ysgrifennu sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd â Hywel Gwynfryn ac Anrheg Elin (2000).

Caryl Bu ganddi ei chyfres ddynwared ei hun ar S4C yn yr 80au ac yn ddiweddar bu'n hyfforddi tu ôl i'r llwyfan ar y gyfres Wawffactor ar S4C. Mae hefyd yn aelod o dîm Talwrn Y Taeogion.

Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi Gymreig ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru i "godi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a'u hannog i greu a mwynhau cerddi".

"Mae hon yn joban dwi'n edrych ymlaen yn aruthrol tuag ati. Does dim yn fwy deniadol, gonest a byw na dychymyg plentyn ac mae cael cyfle i grwydro drwy'r tiroedd breision hynny yn ddim llai na braint.

"Dwi'n gobeithio cael oriau o hwyl a sawl agoriad llygad."


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý