Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Ailgylchu ar y maes

Gwurddioni

Mynd yn goch, gwyn
a gwyrdd-gwyrdd

Mae'r Urdd wedi cymryd camau i weld beth yn union yw ôl troed garbon Eisteddfod Genedlaethol y mudiad.

Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgol Bangor fel rhan o gynllun dwy flynedd rhwng yr Urdd ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru i daclo newid hinsawdd.

"Yr ydym yn gobeithio y bydd hynny yn arwain at leihau costau yr Eisteddfod," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.
Chris Mills ac Efa Gruffudd Jones yn cael eu holi gan Sian Parri Huws ar gyfer y radio "Bydd yr adroddiad hefyd yn dylanwadu ar waith yr Urdd wrth iddo ddod yn fwy cynaliadwy, a bydd yn awgrymu sut y gall yr Urdd weithio gyda phartneriaid i leihau ei ôl troed carbon," ychwanegodd.

Bydd yr Urdd hefyd yn penodi cydlynydd a fydd yn dod ag amryw o ymgyrchoedd dyngarol yr Urdd - gan gynnwys newid hinsawdd - at ei gilydd.

Yn fater difrifol
"Y mae'r Urdd yn sylweddoli fod newid hinsawdd yn fater difrifol iawn ac yn un y mae plant a phobl ifainc yn ei gymryd o ddifrif," meddai Efa Gruffudd Jones.

Yn bresennol i roi sêl ei fendith ar y cytundeb ag Asiantaeth yr Amgylchedd yr oedd Chris Mills y cyfarwyddwr a ddywedodd nad oedd 'nunlle gwell i gychwyn ar y gwaith o greu ymwybyddiaeth "na lle mae dros gan mil o bobl ifainc yn dod at ei gilydd."

I'r diben hwnnw bydd y mudiad
  • Yn trefnu i grwpiau o bobl ifanc weithio er lles yr amgylchedd yn eu cymunedau.
  • Yn sôn am newid hinsawdd yn ei gylchgronau.
  • Yn trefnu sesiynau hyfforddiant i staff a gweithwyr ieuenctid gwirfoddol.
  • Yn rhoi pwyslais ar newid hinsawdd yn Neges Ewyllys Da 2008. Disgrifiodd Chris Mills newid hinsawdd fel "y bygythiad mwyaf yr ydym yn ei wynebu heddiw".

    Dau o bob tri
    "Mewn arolwg diweddar a gomisiynwyd, dangoswyd bod dau o bob tri o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn gwneud rhywbeth i daclo newid hinsawdd. Mae pobl yn dechrau cael y neges ei bod hi'n gyfrifoldeb ar bawb, ac y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth, ond mae dal i fod digon i'w wneud," meddai.

    Ychwanegodd mai newid hinsawdd fydd yn cael prif sylw Dydd Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, Mehefin 5.

    "Mae gennym weledigaeth ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y bydd y rheiny sy'n ymweld â'r Eisteddfod yn ei rhannu - lle gwell i bobl a bywyd gwyllt, ar gyfer y genhedlaeth bresennol a'r nesaf," meddai.

    Biniau ar y maes
    Ac meddai Efa Gruffudd Jones: "Drwy'r ymgyrch yma mae'r Urdd yn gallu gweithredu. Un o brif amcanion y prosiect fydd trosglwyddo'r neges i'n haelodau y gallan nhw hefyd, ar lefel bersonol, a chymunedol, weithredu."

    Gwelwyd camu tuag at yr Urdd goch, gwyn a gwyrdd-gwyrdd, yn yr Eisteddfod eleni gyda biniau ailgylchu ar y maes.

    Hefyd darparwyd cynghorion ar gyfer sut i becynnu bwyd i ddod i'r Eisteddfod heb ddefnyddio pethau fel 'clingfilm'.


  • About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý