Βι¶ΉΤΌΕΔ

Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage
Cymru'r Byd

Β»
Βι¶ΉΤΌΕΔ Vocab
OFF / I FFWRDD
Β» Turn ON
Troi YMLAEN
Β» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Μύ

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Μύ

Straeon

Sian eirian

Traffig yn boen

ond bydd 'popeth yn iawn yfory'

Er gwaethaf trafferthion trafnidiaeth yn ystod dau ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod dywedodd y trefnwyr nad ydynt yn bryderus y bydd pethau'n gwaethygu yfory pan fydd marchnad anifeiliaid ar ran arall o'r safle.

Dywedodd Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, y bydd yna drefniant gwahanol ar gyfer trafnidiaeth fore Mercher yn dilyn trafodaethau gyda threfnwyr y Mart.

"Ac felly yfory fe fydd yna ddwy ffrwd i'r traffig i sicrhau y bydd y ffermwyr hynny sy'n mynd i'r mart yn hapus ac y bydd eisteddfodwyr yn hapus," meddai.

Bu cryn gwyno fore Llun a heddiw (Mawrth) gyda rhai ymwelwyr dros awr yn hwyr yn cyrraedd maes yr Eisteddfod - rhai wedi cymryd dros awr a chwarter i deithio'r tair milltir o dref Caerfyrddin.

Ond dywedodd Sian Eirian i'r Eisteddfod fod "mewn trafodaethau cyson" efo'r heddlu a Chyngor Sir Caerfyrddin a bod pethau yn gwella. Ychwanegodd i'r ffaith ei bod yn Εµyl banc gymhlethu'r broblem gan annog pawb i gychwyn yn gynnar ac hefyd i gadw i'r rhan gywir o'r lonydd erbyn cyrraedd cyrion yr eisteddfod a pheidio a cheisio goddiweddyd traffig sydd yno'n barod.

Dywedodd fod cylchdro cyfagos - cylchdro Pensarn - yn un lle mae tagfa bob amser.

"Yn naturiol yr ydw i'n cydymdeimlo a'r sefyllfa ac yn gofyn i bawb fod yn amyneddgar," meddai gan alw ar yrwyr i ddilyn arwyddion yr Eisteddfod.

"Hefyd yr ydym yn gofyn i bobl wrando ar y stiwardiaid wrth iddyn nhw eich cyfarwyddo," meddai.

Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi cael maes parcio ychwanegol gyda bws wennol i liniaru'r broblem.

"Rwy'n gobeithio ein bod wedi lliniaru pryderon pawb," meddai.


About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Μύ