Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»
Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Shan Cothi

Llywydd dydd Mawrth

Shân Cothi cantores o'r Shir

Yn gantores o fri daeth Shân Cothi i amlygrwydd fel actors hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy ei rhan fel Davina yn y gyfres deledu, Con Passionate

Ym mhentref Ffarmers, Shir Gâr, y ganwyd Shân.
Graddiodd mewn Drama a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac mae hi hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgolion Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth.

Rhuban Glas
Ar ôl ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abergele, 1995, penderfynodd Shân fynd yn gantores broffesiynol ac ers hynny mae wedi perfformio mewn canolfannau ar hyd a lled y byd - gan gynnwys, Llundain i Efrog Newydd, Moscow a Hong Kong.

Ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru mae ganddi raglan reolaidd bob bore Sul yn cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth ysgafn ac enillodd rhaglen y bu'n ei chyflwyno ar S4C wobr BAFTA a'i henwebu ar gyfer y rhaglen gerddoriaeth orau yng Ngŵyl Montreaux.

Yn 2000 chwaraeodd ran Carlotta yn Phantom of the Opera yn y West End. Ymhlith nifer o ymddangosiadau teledu mae Divas I a II gydag Owain Arwel Hughes, Music Under the Stars gyda Bryn Terfel a Michael Ball yng Ngŵyl y Faenol, Messiah gyda Bryn Terfel, Rhys Meirion ac Eirian James, Cyngerdd Cariad yn Neuadd Dewi Dant Caerdydd gyda Cherddorfa Gymreig y Â鶹ԼÅÄ a Gwyn a Shân gyda'r tenor Gwyn Hughes Jones.

Rhan gyntaf
Yna, yn 2005 cafodd Shân ei rhan gyntaf mewn cyfres ddrama hynod boblogaidd Con Passionate ar S4C.

Perfformiodd gydag Only Men Aloud mewn cyngerdd i anrhydeddu Dame Shirley Bassey, Dame Gwyneth Jones, Siân Phillips, Alun Hoddinott, a Syr Richard Burton ac yn 2005 a 2006 perfformiodd yn y sioe gerdd Amazing Grace gan Mal Pope a Frank Vickery.

Recordiodd ei halbwm cyntaf, Passione gyda Cherddorfa Siambr Genedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý